Micah 1 - The Minor Prophets 1881 (John Davies, Ietwen)

PEN. I.—

1Gair yr Arglwydd yr hwn a fu at Micah, y Morasthiad, yn nyddiau Jotham, Achas, Hizciah, breninoedd Judah: yr hwn a welodd am Samaria a Jerusalem.

2Gwrandewch, bobloedd, oll o honynt;

Clyw, wlad a’i chyflawnder:

A bydd yr Arglwydd Iôr yn dyst yn eich erbyn;

Yr Arglwydd o’i deml santaidd.

3Canys wele yr Arglwydd yn dyfod allan o’i le:

Ac efe a ddisgyn ac a sathr ar uchelderau daear.

4A’r mynyddoedd a doddant dano ef;

A’r glynoedd a ymholltant:

Fel y cwyr o flaen y tân;

Fel dyfroedd a dywalltwyd ar y gorwaered.

5Am anwiredd Jacob y mae hyn i gyd;

Ac am bechodau tŷ Israel:

Beth yw anwiredd Jacob,

Onid Samaria;

A pheth yw uchelfeydd Judah;

Onid Jerusalem.

6A gosodaf Samaria yn garnedd y maes,

Yn blanfeydd gwinllan:

A gwnaf i’w cherig dreiglo i’r dyffryn;

A dadguddiaf ei sylfaeni.

7A’i holl ddelwau cerfiedig a ddryllir,

A’i holl wobrau a losgir yn tân;

A’i holl eilunod a osodaf yn anrhaith:

O herwydd mai o wobr putain y casglodd hi;

Yn wobr putain yr ant eto.

8O herwydd hyn y galaraf ac y cwynaf;

Cerddaf yn ddiosgedig ac yn noeth:

Gwnaf gwynfan fel y dreigiau:

A griddfanaf fel cywion estrys.

9O herwydd anwelladwy yw ei harchollion hi;

Canys daeth hyd at Judah;

Cyrhaeddodd hyd at borth fy mhobl, Hyd at Jerusalem.

10Yn Gath na fynegwch;

Gan wylo nac wylwch:

Yn Beth Aphra,

Ymdreigla yn y llwch.

11Dos trosodd, breswyles Shaphir, yn noeth dy warth:

Nid aeth preswyles Saanan allan;

Galar Beth Hasel,

A gymer oddiwrthych ei chynorthwy.

12Preswyles Maroth yn ddiau a ddysgwyliodd am ddaioni:

Canys drwg a ddisgynodd oddiwrth yr Arglwydd;

Hyd borth Jerusalem.

13Rhwym y cerbyd wrth y buan-farch, breswyles Lachis:

Dechreuad pechod fu hi i ferch Sion;

Canys ynot ti y cafwyd anwireddau Israel.

14Am hyny y rhoddi ollyngdod;

Ar Moresheth Gath.

Tai Aczib a fyddant yn gelwydd;

I freninoedd Israel.

15Hefyd mi a ddygaf etifedd i ti, breswyles Maresha:

Hyd Adulam y daw gogoniant Israel.

16Ymfoela ac ymeillia;

Am dy feibion moethus:

Lleda dy foelni fel yr eryr;

Canys caethgludwyd hwynt oddiwrthyt.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help