1A bu yn y bedwaredd flwyddyn i Darius y brenin, y bu gair yr Arglwydd at Zecharïah ar y pedwerydd o’r mis, y nawfed, yn Cislef.
2Ac anfonodd Bethel Sharetser, Regem Melec a’i wŷr i ymbil am wyneb yr Arglwydd
3gan ddywedyd wrth yr offeiriaid y rhai oeddent wrth dŷ Arglwydd y lluoedd; ac wrth y prophwydi, gan ddywedyd: A wylaf fi yn y pumed mis i ymatal fel y gwnaethum bellach gynifer o flynyddoedd.
4,5A bu gair Arglwydd y lluoedd ataf gan ddywedyd: dywed wrth holl bobl y wlad ac wrth yr offeiriaid gan ddywedyd:
Ddarfod ymprydio o honoch a galaru ar y bumed a’r seithfed,
A hyn ddeng mlynedd a thriugain;
Ai i mi yr ymprydiasoch,
I mi,
6A phan fwytaech a phan yfech;
Onid y chwi oeddech yn bwyta,
A chwi oeddech yn yfed.
7Onid hyn
y geiriau,Y rhai a gyhoeddodd yr Arglwydd trwy y proffwydi gynt;
Pan oedd Jerusalem yn aros ac yn esmwyth;
A’i dinasoedd o’i hamgylch:
A’r deheudir a’r gwastad-dir yn cael ei gyfaneddu.
8A bu gair yr Arglwydd at Zechariah gan ddywedyd;
9Fel hyn y dywedodd Arglwydd y lluoedd gan ddywedyd;
Bernwch farn gywir;
A thrugaredd a thosturi;
Gwnewch bob un i’w frawd.
10A gweddw ac amddifad,
A dieithr a thlawd na orthrymwch:
A drwg gan un i’w frawd;
Na feddyliwch yn eich calonau.
11A gwrthodasant wrando;
A rhoddasant ysgwydd anhydyn:
A’u clustiau a drymasant rhag clywed.
12A’u calonau a wnaethant yn adamant,
Rhag clywed y gyfraith a’r geiriau,
Y rhai a anfonodd Arglwydd y lluoedd trwy ei ysbryd;
Yn llaw y proffwydi gynt:
A bu digofaint mawr oddiwrth Arglwydd y lluoedd.
13A bu megys y galwodd efe ac na wrandawsant;
Felly y galwent hwy ac ni wrandawn,
Medd Arglwydd y lluoedd.
14A gwasgarwn hwynt,
Dros yr holl genedloedd y rhai nis adwaenent hwynt;
A’r wlad a anghyfaneddwyd ar eu hol hwynt;
Heb a dramwyai ac heb a ddychwelai:
A hwy a osodasant wlad ddymunol yn ddiffaethwch.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.