1A bu ddrwg iawn gan Jonah, ac efe a ddigiodd.
2Ac efe a weddiodd ar yr Arglwydd ac a ddywedodd, Oh Arglwydd, oni ddywedais i hyn tra yr oeddwn i eto yn fy ngwlad; am hyny y ffoais yn mlaen i Tarshish: am y gwyddwn dy fod ti yn Dduw grasol a thrugarog; hwyrfrydig i ddig, ac aml o drugaredd, a thosturiol wrth ddrwg.
3Ac yn awr, Arglwydd, cymer, atolwg, fy einioes oddiwrthyf: canys gwell i mi farw na byw o honof.
4A’r Arglwydd a ddywedodd, ai da yw i ti ymddigio.
5A Jonah a aeth allan o’r ddinas, ac a eisteddodd o’r tu dwyrain i’r ddinas: ac a wnaeth iddo yno fwth, ac a eisteddodd tano yn y cysgod, hyd oni welai beth a fyddai yn y ddinas.
6A’r Arglwydd a ddarparodd gicaion, ac efe a gododd oddiar Jonah i fod yn gysgod ar ei ben ef i’w waredu o’i ofid: a bu Jonah lawen iawn am y cicaion.
7A Duw a ddarparodd bryf ar godiad y wawr dranoeth, ac efe a darawodd y cicaion ac efe a wywodd.
8A bu fel y codai yr haul i Dduw ddarparu hefyd boethwynt dwyrain; a’r haul a darawodd ar ben Jonah, ac efe a lewygodd: ac efe a ddeisyfodd iddo gael marw, ac a ddywedodd, gwell i mi farw nac i mi fyw.
9A Duw a ddywedodd wrth Jonah, ai da yw ymddigio o honot am y cicaion: ac efe a ddywedodd,
10da yw i mi ymddigio hyd angeu. A’r Arglwydd a ddywedodd, ti a dosturiaist wrth y cicaion yr hwn ni lafuriaist wrtho,
11ac nas peraist iddo dyfu: mewn noswaith y bu ac mewn noswaith y darfu. A minau oni thosturiwn wrth Ninefeh y ddinas fawr, yr hon y mae ynddi fwy na deuddeg myrdd o ddynion y rhai ni wyddant wahaniaeth rhwng eu llaw ddeheu a’u llaw aswy, ac anifeiliaid lawer.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.