1Yn yr ail flwyddyn i Darius y brenin, yn y chweched mis, yn y dydd cyntaf o’r mis, y bu gair yr Arglwydd trwy law Haggai y proffwyd at Zerubabel, mab Shealtiel, llywydd Judah, ac at Joshua, mab Jehosadac yr archoffeiriad, gan ddywedyd:
2Fel hyn y dywedodd Arglwydd y lluoedd gan ddywedyd:
Y bobl hyn a ddywedasant;
Ni ddaeth yn amser,
Yn amser i adeiladu tŷ yr Arglwydd.
3A bu gair yr Arglwydd trwy law Haggai y proffwyd gan ddywedyd:
4A ydyw yn amser i chwi eich hunain;
I drigo yn eich tai byrddiedig:
A’r tŷ hwn yn anghyfanedd.
5Ac yn awr fel hyn y dywedodd Arglwydd y lluoedd:
Ystyriwch eich ffyrdd.
6Hauasoch lawer,
Ond ychydig ddwyn i fewn fu;
Bu bwyta,
Ond nid hyd ddigon;
Yfed;
Ond nid hyd ddisychedu;
Gwisgo,
Ond nid i gynesrwydd i un:
A’r hwn a enillo gyflog;
Sydd yn enill cyflog i god dyllog.
7Fel hyn y dywedodd Arglwydd y lluoedd:
Ystyriwch eich ffyrdd.
8Esgynwch i’r mynydd a dygwch goed,
Ac adeiladwch y tŷ:
A mi a ymhyfrydaf ynddo,
A mi a ogoneddir,
Medd yr Arglwydd.
9Edrychwyd am lawer,
Ac wele ychydig oedd;
A dygasoch adref;
A chwythais arno:
Am ba beth,
Medd Arglwydd y lluoedd:
Am fy nhŷ yr hwn sydd yn anghyfanedd;
A chwithau yn rhedeg bob un i’w dŷ ei hun.
10Am hyny o’ch plegid chwi;
Yr attaliodd wybrenau rhag gwlith;
A’r ddaear a attaliodd ei chynyrch.
11A gelwais am sychder ar y ddaear ac ar y mynyddoedd,
Ac ar ŷd, ac ar y gwin, ac ar yr olew;
Ac ar yr hyn a ddwg y ddaear:
Ac ar y dyn ac ar yr anifail;
Ac ar holl lafur dwylaw.
12A gwrandawodd Zerubabel mab Shaltiel a Jehoshua mab Jehosadac yr offeiriad mawr, a holl weddill y bobl, ar lais yr Arglwydd eu Duw; ac ar eiriau Haggai y proffwyd, megys yr anfonodd yr Arglwydd eu Duw hwynt ef: a’r bobl a ofnasant rhag yr Arglwydd.
13A dywedodd Haggai cenad yr Arglwydd, mewn cenadwri gan yr Arglwydd, wrth y bobl gan ddywedyd:
Yr wyf fi gyda chwi, medd yr Arglwydd,
14A chynhyrfodd yr Arglwydd ysbryd Zerubabel, mab Shaltiel, llywydd Judah, ac ysbryd Jehoshua, mab Jehosadac yr offeiriad mawr, ac ysbryd holl weddill y bobl; â hwy a ddaethant ac a wnaethant waith yn nhŷ
15Arglwydd y lluoedd, eu Duw hwynt: yn y pedwerydd dydd ar hugain o’r chweched mis, yn yr ail flwyddyn i Darius y brenin.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.