Obadiah 1 - The Minor Prophets 1881 (John Davies, Ietwen)

GWELEDIGAETH OBADIAH.

1Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd Iôr wrth. Edom,

Clywsom son oddiwrth yr Arglwydd,

A chenad a anfonwyd yn mysg y cenedloedd:

Codwch a chyfodwn i ryfel yn ei herbyn hi.

2Wele bychan y’th wnaethum yn mysg y cenedloedd:

Dirmygedig iawn wyt ti.

3Balchder dy galon a’th dwyllodd di;

Yr hwn wyt yn holltau craig yn uchel ei drigfa:

Yn dywedyd yn ei galon;

Pwy a’m tyn i lawr i’r ddaear.

4Ped ymddyrchefit megys yr eryr;

A gosod dy nyth rhwng sêr:

Oddiyno y’th ddisgynwn,

Medd yr Arglwydd.

5Os lladron a ddaethant atat,

Os ysbeilwyr nos;

Pa fodd y’th anrheithiwyd;

Onid eu digon a ladratent:

Os cynullwyr grawnwin a ddaethant atat;

Oni adawent loffion yn weddill.

6Pa fodd y chwiliwyd Esau;

Y ceisiwyd ei guddfëydd ef.

7Hyd y terfyn y’th yrodd yr holl wŷr yr oedd cyfamod i ti â hwynt;

Twyllasant di, buont drech na thi:

Gwŷr dy heddwch, dy fara, a osodasant fagl danat:

Nid oes ddeall ynddo.

8Onid yn y dydd hwnw, medd yr Arglwydd:

Y dinystriaf ddoethion allan o Edom;

A deall allan o fynydd Esau.

9A dryllir dy gedyrn di Teman:

Fel y torer ymaith bob gŵr o fynydd Esau.

10Am lofruddiaeth, am draha ar dy frawd Jacob,

Y’th orchuddia gwarth:

A thi a dorir ymaith byth.

11Yn y dydd y sefaist ar gyfer;

Yn y dydd y cludodd estroniaid ei olud ef:

Ac y daeth dyeithriaid i’w byrth ef,

A bwrw o honynt goelbren ar Jerusalem;

Tithau hefyd oeddit megys un o honynt.

12Ond nac edrych ar ddydd dy frawd,

Ar ddydd ei adfyd;

Ac na lawenycha o achos plant Judah,

Yn nydd eu dinystr hwynt:

Ac na leda dy safn ar ddydd cyfyngder.

13Na ddos o fewn porth fy mhobl,

Yn nydd eu haflwydd;

Ac nac edrych di chwaith ar eu hadfyd,

Yn nydd eu haflwydd;

Ac nac estynwch law ar eu golud,

Yn nydd eu haflwydd.

14Ac na saf ar y groesffordd;

I dori ymaith eu rhai diangol:

Ac nac argaea ar eu ffoaduriaid,

Yn nydd cyfyngder.

15Canys agos yw dydd yr Arglwydd ar yr holl genedloedd:

Fel y gwnaethost y gwneir i ti;

Dy bwyth a ddychwel ar dy ben.

16Canys megys yr yfasoch ar fy mynydd santaidd,

Yr ŷf yr holl genedloedd yn wastad:

A hwy a yfant ac a lyncant;

A byddant fel pe na buasent.

17Ond ar fynydd Sion y bydd ymwared,

A bydd yn santaidd:

A thŷ Jacob a etifeddant eu hetifeddiaethau.

18A bydd tŷ Jacob yn dân,

A thŷ Joseph yn fflam,

A thŷ Esau yn sofl;

A chyneuant ynddynt a llosgant hwynt:

Ac ni bydd a weddillir i dŷ Esau;

Canys yr Arglwydd a ddywedodd.

19A’r dehau a etifedda fynydd Esau,

A’r gwastadedd y Philistiaid;

Ac etifeddant diriogaeth Ephraim;

A thiriogaeth Samaria:

A Benjamin Gilead.

20A’r llu hwn o gaethion meibion Israel gan Ganaaneaid hyd Tsarephath;

A chaethglud Jerusalem y rhai sydd yn Sepharad:

A etifeddant ddinasoedd y dehau.

21A gwaredwyr a godant i fyny yn mynydd Sion;

I farnu mynydd Esau:

A’r freniniaeth a fydd eiddo yr Arglwydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help