1A thydi, Bethlehem Ephratha,
Bychan yw bod yn mhlith miloedd Judah:
O honot ti y daw allan i mi;
Un i fod yn llywydd yn Israel;
A’i fynediad allan sydd er cynt, er dyddiau oesol.
2Er hyny, efe a’u rhydd hwynt i fyny;
Hyd amser esgoriad yr hon a esgoro:
A gweddill ei frodyr ef;
A ddychwelant at feibion Israel.
3Ac efe a saif ac a fugeilia trwy nerth yr Arglwydd;
Trwy enw gogoneddus yr Arglwydd ei Dduw:
A phreswyliant;
Canys yn awr efe a fydd mawr hyd eithafoedd daear;
A hwn fydd yn heddwch
4Assuriad pan ddel i’n tir ni,
A phan sathro o fewn ein palasau;
Ni a godwn yn ei erbyn saith fugeiliaid;
Ac wyth wyr o dywysogion.
5A hwy a ddrylliant dir Assur â’r cleddyf;
A thir Nimrod yn ei byrth ei hun:
Ac efe a weryd rhag Assur;
Pan ddel i’n tir;
A phan sathro o fewn ein terfynau.
6A bydd gweddill Jacob yn nghanol llawer o bobl;
Fel gwlith oddiwrth yr Arglwydd;
Fel cawodydd ar laswellt:
Yr hwn nid erys wrth ddyn;
Ac ni ddysgwyl wrth feibion dynion.
7A bydd gweddill Jacob yn mysg y cenedloedd,
Yn nghanol pobloedd lawer;
Fel llew yn mysg anifeiliaid coedwig;
Fel cenaw llew yn mysg deadellau defaid:
Yr hwn pan dramwya a sathra ac a ysglyfaetha,
Ac ni bydd a achubo.
8Dy law a ddyrchefir yn erbyn dy wrthwynebwyr;
A’th holl elynion a dorir ymaith.
9A bydd yn y dydd hwnw, medd yr Arglwydd;
Y toraf ymaith dy feirch o’th ganol di:
Ac y dinystriaf dy gerbydau.
10A thoraf i lawr ddinasoedd dy wlad:
A drylliaf dy holl ymddiffynfeydd.
11A thoraf ymaith swynion o’th law:
Ac ni bydd i ti ddewiniaid.
12A thoraf ymaith dy eilunod a’th ddelwau o’th blith:
Ac nid ymgrymi mwyach i waith dy ddwylaw.
13A diwreiddiaf dy dduwiesau o’th ganol:
A dinystriaf dy ddinasoedd.
14A gwnaf mewn dig a llid ddialedd ar y cenedloedd:
Y rhai ni wrandawsant.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.