1Agor, Lebanon, dy ddorau:
Ac ysed tân yn dy gedrwydd.
2Cwynfana ffinydwydden,
Canys cwympodd cedrwydd;
Difrodwyd y rhai ardderchog:
Cwynfenwch dderw Bashan;
Canys syrthiodd y goedwig amgauedig.
3Y mae llais cwynfan y bugeiliaid;
Canys difrodwyd eu hardderchowgrwydd hwynt:
Y mae swn rhuad cenawon llewod;
Canys difrodwyd balchder yr lorddonen.
4Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd fy Nuw:
Bugeilia ddefaid y lladdfa.
5Y rhai y gwna eu perchenogion eu lladd,
Ac ni bydd euogrwydd arnynt;
A’u gwerthwyr a ddywedant;
Bendigedig fyddo yr Arglwydd;
A mi a gyfoethogir:
A’u bugeiliaid ni thosturiant wrthynt.
6Canys ni thosturiaf mwyach wrth drigolion y wlad,
Medd yr Arglwydd:
Ac wele fi yn gwneuthur i’r dynion fyned,
Bob un yn llaw ei gymydog,
Ac yn llaw ei frenin;
A drylliant y wlad;
Ac ni waredaf o’u llaw hwynt.
7A mi a fugeiliais ddefaid. y lladdfa;
Am hyny yn drueiniaid y defaid:
A chymerais i mi ddwy ffon,
Un a elwais Hyfrydwch,
Ac un a elwais Rhwymau;
A mi a fugeiliais y defaid.
8A mi a berais fyned o’r golwg y tri bugail mewn un mis:
A’m henaid a flinodd arnynt;
A’u henaid hwy hefyd a’m ffieiddiodd i.
9A dywedais Ni fugeiliaf chwi:
Yr hon sydd yn marw bydded farw,
A’r hon sydd guddiedig bydded guddiedig;
A’r gweddilledigion,
Ysant bob un gnawd eu gilydd.
10A chymerais fy ffon Hyfrydwch;
Ac a’i torais hi:
I ddiddimu fy nghyfamod;
Yr hwn a wnaethum â’r holl bobloedd.
11Ac efe a ddiddimwyd yn y dydd hwnw:
A gwybu felly drueiniaid y defaid a ddysgwylient wrthyf;
Mai gair yr Arglwydd oedd hyn.
12A dywedais wrthynt,
Os da yn eich golwg,
Rhoddwch fy nghyflog;
Ac os nad e, peidiwch:
A hwy a bwysasant yn gyflog i mi ddeg ar hugain arian.
13A dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Bwrw ef i’r crochenydd;
Gwych y pris â’r hwn y’m prisiwyd ganddynt:
A mi a gymerais y deg ar hugain arian;
A bwriais ef i dŷ yr Arglwydd i’r crochenydd.
14A thorais fy ail ffon;
Y Rhwymau:
I ddiddymu y frawdoliaeth;
Rhwng Judah ac Israel.
15A’r Arglwydd a ddywedodd wrthyf,
Cymer eto i ti;
Offer bugail ffol.
16Canys wele fi yn codi bugail yn y wlad,
A’r rhai sydd o’r golwg nis gofwya,
Y crwydrol ni chais;
A’r ddrylliedig nis meddyga:
Yr hon sydd yn sefyll ni phortha;
A chig y fras a fwyty;
A’u hewinedd a ddryllia.
17Gwae y bugail diddim yn gadael y defaid;
Cleddyf fydd ar ei fraich a’i lygad. deheu:
Ei fraich gan wywo a wywa;
A’i lygad deheu gan dywyllu a dywylla.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.