1Geiriau Amos;
Yr hwn oedd yn mhlith y bugeiliaid o Tecoah:
Y rhai a welodd am Israel yn nyddiau Uzziah, brenin Judah, Ac yn nyddiau Jeroboam mab Joash brenin Israel,
Ddwy flynedd cyn y daeargryn.
2Ac efe a ddywedodd,
Yr Arglwydd a rua o Sion;
Ac a rydd ei lef o Jerusalem:
A phorfëydd y bugeiliaid a ddifwynir;
A phen Carmel a wywa.
3Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd;
Am dri anwireddau Damascus;
Ac am bedwar nis troaf hyny ymaith:
Am iddynt ddyrnu Gilead ag offer dyrnu o haiarn.
4A mi a anfonaf dân i dŷ Hasael;
Ac efe a ddifa balasau Benhadad.
5A drylliaf farau Damascus;
A thoraf ymaith breswylydd o ddyffryn Afen;
A’r hwn sydd yn dal teyrnwialen o Beth Eden:
A phobl Syria a gaethgludir i Cir medd yr Arglwydd.
6Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd;
Am dri anwireddau Gazah:
Ac am bedwar nis troaf hyny ymaith:
Am iddynt gaethgludo caethglud lawn,
I’w rhoddi fynu i Edom.
7Ac anfonaf dân yn mûr Gaza;
Ac efe a ddifa ei phalasau hi.
8A thoraf ymaith breswylydd o Ashdod;
A’r hwn a ddeil deyrnwialen o Ascelon:
A throaf fy llaw yn erbyn Ecron,
A derfydd gweddill y Philistiaid;
Medd yr Arglwydd Ior.
9Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd;
Am dri anwireddau Tyrus;
Ac am bedwar
Nis dattroaf ef:
O herwydd iddynt hwy roddi i fyny gaethglud lawn i Edom;
Ac na chofiasant gyfamod brodyr.
10Ac anfonaf dân yn mûr Tyrus;
Ac efe a ddifa ei phalasau.
11Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd;
Am dri anwireddau Edom;
Ac am bedwar, Nis dattroaf ef;
Am iddo erlid ei frawd â’r cleddyf a bwrw ymaith ei dosturiaethau;
A bod ei ddig yn rhwygo yn wastadol;
A bod ei lid yn cadw byth.
12A mi a anfonaf dân i Teman;
Ac efe a ddifa balasau Bosrah.
13Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd;
Am dri anwireddau meibion Ammon;
Ac am bedwar,
Ni throaf ef yn ol:
Am iddynt hwy rwygo gwragedd beichiogion Gilead;
Er mwyn helaethu eu terfyn.
14A mi a ddygaf dân yn mûr Rabba;
Ac efe a ddifa ei phalasau:
Gyda gwaedd ar ddydd rhyfel;
Gyda thymestl ar ddydd corwynt.
15A’u brenin a â i gaethiwed:
Efe a’i dywysogion ynghyd,
Medd yr Arglwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.