1Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd;
Am dri anwireddau Moab;
Ac am bedwar,
Ni throaf hyny yn ol:
Am iddo losgi esgyrn brenin Edom yn galch.
2A mi a anfonaf dân yn Moab;
Ac efe a ddifa balasau y dinasoedd:
A Moab a fydd marw mewn terfysg;
Mewn gwaeddi, mewn sain udgorn.
3A mi a doraf ymaith farnwr o’i chanol:
A’i holl dywysogion a laddaf gydag ef,
Medd yr Arglwydd.
4Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd;
Am dri anwireddau Judah;
Ac am bedwar,
Ni throaf hyny yn ol:
Am wrthod o honynt gyfraith yr Arglwydd,
Ac nas cadwasant ei ddeddfau Ef;
Ac i’w celwyddau beri iddynt gyfeiliorni;
Y rhai y rhodiodd eu tadau yn eu hol.
5A mi a anfonaf dân yn Judah;
Ac efe a ddifa balasau Jerusalem.
6Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd;
Am dri anwireddau Israel,
Ac am bedwar,
Ni throaf hyny yn ol:
Am iddynt werthu gŵr uniawn am arian;
A thlawd am bâr o sandalau.
7Y rhai a ddyheuant am lwch daear ar ben tlodion;
A ffordd rhai cystuddiedig a wyrant:
A gwr a’i dad a ant at y llances;
I halogi fy enw santaidd I.
8Ac ar ddillad wedi eu rhoi yn wystl y gorweddant;
Wrth bob allor:
A gwin y dirwyedig a yfant;
Yn nhŷ eu duwiau.
9A myfi a ddinystriais yr Amoriad o’u blaen hwynt;
Yr hwn yr oedd ei uchder fel uchder cedrwydd,
Ac efe oedd gryf fel derw:
A dinystriais ei ffrwyth oddiarnodd;
A’i wraidd odditanodd.
10A myfì a’ch dygais i fyny o wlad yr Aipht:
Ac a wnawn i chwi gerdded yn yr anialwch ddeng mlynedd;
I feddianu gwlad yr Amoriad.
11A chyfodwn broffwydi o’ch meibion;
A Nazareaid o’ch gwŷr ieuanc:
Oni bu hyn, meibion Israel,
Medd yr Arglwydd.
12A chwi a roisoch i’r Nazareaid win i’w yfed:
Ac am y proffwydi y gorchymynasoch, gan ddywedyd:
Na phroffwydwch.
13Wele fi wedi fy llethu tanoch:
Fel y llethir y fen lawn o ysgubau.
14A metha gan y buan ffoi;
A chryf ni chadarnha ei rym:
A gwr cadarn ni weryd ei einioes.
15Ni saif a ymaflo mewn bwa;
Ni ddianc y buan o draed:
Ac a farchogo ar y march: Ni weryd ei einioes.
16A chryf ei galon yn mhlith y cedyrn;
A ffy yn noeth yn y dydd hwnw,
Medd yr Arglwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.