Zechariah 2 - The Minor Prophets 1881 (John Davies, Ietwen)

PEN. II.—

1A mi a godais fy ngolwg ac a edrychais:

Ac wele bedwar cyrn.

2A dywedais wrth y genad oedd yn ymddyddan â mi,

Beth yw y rhai hyn:

Ac efe a ddywedodd wrthyf;

Y rhai hyn yw y cyrn a wasgarasant Judah;

Israel a Jerusalem.

3A’r Arglwydd a ddangosodd i mi;

Bedwar gofaint.

4A dywedais,

Beth y mae y rhai hyn yn dyfod i’w wneuthur:

Ac efe a ddywedodd gan ddywedyd,

Y rhai hyn yw y cyrn y rhai a wasgarasant Judah,

Fel nad allai gŵr godi ei ben;

A’r rhai hyn a ddaethant i’w tarfu hwynt,

I daflu lawr gyrn y cenedloedd,

Y rhai a godasant gorn yn erbyn tir Judah,

I’w gwasgaru hi.

5A chodais fy ngolwg ac edrychais,

Ac wele ŵr:

Ac yn ei law linyn mesur.

6A dywedais,

I ba le yr ai di:

Ac efe a ddywedodd wrthyf,

I fesur Jerusalem;

I weled beth yw ei lled hi a pheth yw ei hyd hi.

7Ac wele y genad a oedd yn ymddyddan â mi yn myned allan;

A chenad arall yn myned allan i’w gyfarfod ef.

8Ac efe a ddywedodd wrtho, rhed,

Llefara wrth y llanc hwn gan ddywedyd:

Yn faesdrefi y cyfaneddir Jerusalem;

Gan amledd dyn ac anifail o’i mewn.

9A myfi a fyddaf iddi, medd yr Arglwydd:

Yn fûr o dân o amgylch:

A byddaf yn ogoniant yn ei chanol.

10Ho, ho,

A ffowch o wlad y gogledd, medd yr Arglwydd:

Canys fel pedwar gwynt y nefoedd y gwasgerais chwi,

Medd yr Arglwydd.

11Ho, Sïon ymachub;

Yr hon wyt yn preswylio gyda merch Babylon.

12Canys fel hyn y dywedodd Arglwydd y lluoedd,

Ar ol gogoniant;

Y’m anfonodd at y cenedloedd y rhai a’ch ysbeiliasant chwi;

Canys a gyffyrddo â chwi;

Sydd yn cyffwrdd â chanwyll ei lygad Ef.

13Canys wele fi yn ysgwyd fy llaw arnynt;

A byddant yn ysbail i’w gweision:

A chewch wybod mai Arglwydd y lluoedd a’m hanfonodd.

14Gwaedda a llawenycha, merch Sïon:

Canys wele fi yn dyfod,

Ac a drigaf yn dy ganol di,

Medd yr Arglwydd.

15A chenedloedd lawer a lynant wrth yr Arglwydd yn y dydd hwnw;

A byddant i mi yn bobl:

A mi a drigaf yn dy ganol di;

A chei wybod mai Arglwydd y lluoedd a’m anfonodd atat.

16A’r Arglwydd a etifedda Judah ei ran;

Ar y wlad santaidd:

Ac a ddewis Jerusalem eto.

17Pob cnawd taw yn ngwydd yr Arglwydd:

Canys cyfododd o’i drigfan santaidd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help