Habacuc 2 - The Minor Prophets 1881 (John Davies, Ietwen)

PEN. II.—

1Safaf ar fy nysgwylfa;

Ac ymsefydlaf ar dŵr:

Ac edrychaf i weled pa beth a ddywaid wrthyf;

A pha beth a atebaf am yr hyn yr achwynaf arno.

2A’r Arglwydd a’m atebodd ac a ddywedodd;

Ysgrifena weledigaeth;

A cherfia ar y llechau:

Fel y rhedo yr hwn a’i darlleno.

3Canys eto bydd gweledigaeth at yr amser;

A hi a frysia i’r diwedd ac ni thwylla:

Os erys, dysgwyl wrthi:

Canys gan ddyfod y daw, nid oeda.

4Wele trahaus,

Nid uniawn ei enaid ynddo:

A gŵr uniawn a fydd byw yn ei ffyddlondeb.

5A hefyd fel y twylla gwin;

Gŵr balch yw efe ac ni bydd lonydd:

Yr hwn a helaetha ei enaid fel anwelfa,

Ac y mae efe fel yr angeu,

Ac nis digonir ef;

Ac efe a gasgl ato yr holl genedloedd;

Ac a gynull ato yr holl bobloedd.

6Oni chyfyd y rhai hyn oll o honynt ddiareb am dano;

A chaneuon gwatwarus iddo:

A dywedir,

Gwae yr hwn a chwanego yr hyn nad yw eiddo iddo;

Pa hyd;

A’r hwn a lwytho arno wystlon yn drwm.

7Onid yn ddisymwth y cyfyd y rhai a’th gnoant;

Ac y deffry y rhai a’th gystuddiant:

A thi a fyddi yn ysglyfaeth iddynt.

8Am iti ysbeilio cenedloedd lawer;

Holl weddill pobloedd a’th ysbeiliant dithau:

Am waed dyn a thrais i wlad;

I ddinas ac oll ag a drigant ynddi.

9Gwae a elwo elw drwg i’w dŷ:

I osod ei nyth yn uchel;

I ddianc o afael drygfyd.

10Cynghoraist warth i’th dŷ:

I ddinystrio pobloedd lawer;

A phechu y bu dy enaid.

11O herwydd careg a lefa o fûr;

A thrawst a’i hetyb o’r coed.

12Gwae a adeilado dref trwy waed:

Ac a gadarnhao ddinas trwy anghyfiawnder.

13Wele, onid oddiwrth Arglwydd y lluoedd y mae:

Y gwna pobloedd lafurio wrth dân;

A chenedloedd ddiffygio wrth wagedd.

14Canys llenwir y ddaear;

Gan wybodaeth gogoniant yr Arglwydd,

Fel y toa y dyfroedd fôr.

15Gwae a roddo ddiod i’w gymydog;

Gan dywallt dy gostrel a pheri meddwi hefyd:

Er cael edrych ar eu noethni hwynt.

16Llanwyd di o warth yn fwy na gogoniant;

Yf dithau hefyd a noetha dy flaengroen:

Try atat gwpan deheulaw yr Arglwydd;

Chwydiad gwarthus fydd ar dy ogoniant.

17Canys trais Libanus a’th orchuddia;

A difrod anifeiliaid a’u dychryna:

O achos gwaed dynion a thrais ar wlad,

Dinas ac oll ag a drigant ynddi.

18Pa les a wna delw gerfiedig,

Er i’w lliniwr ei cherfio hi;

Delw dawdd ac athraw celwydd,

Er i liniwr ei waith hyderu arno;

I wneuthur eilunod mudion.

19Gwae a ddywedo wrth bren, Deffro;

Cyfod, wrth gareg fud:

Efe a rydd addysg;

Wele gwisgwyd ef âg aur ac arian;

A dim anadl nid oes o’i fewn.

20Ond y mae yr Arglwydd yn ei deml santaidd:

Yr holl ddaear gostega ger ei fron EF.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help