1Gwae ddinas y gwaed:
Celwydd ydyw hi i gyd, llawn trais;
Nid ymedy ysglyfaeth.
2Swn ffrewyll;
A swn trwst olwyni:
A march yn carlamu;
A cherbyd yn neidio.
3Marchog yn dod i fyny,
A chleddyf gloew a gwaewffon ddysglaer;
A lluaws lladdedigion a thrymder celanedd:
Ac heb ddiwedd ar y cyrff meirw;
Tripiant wrth eu cyrff meirw.
4O herwydd aml buteinderau putain dda o harddwch,
Meistres swynion:
Yr hon a werth genedloedd trwy ei phuteinderau;
A theuluoedd trwy ei swynion.
5Wele fi i’th erbyn, medd Arglwydd y lluoedd;
A chodaf dy odreu ar dy wyneb:
A gwnaf i genedloedd weled dy noethni;
A theyrnasoedd dy warthfa.
6A thaflaf arnat bethau bryntion ac a’th amharchaf:
A gosodaf di yn ddrych.
7A bydd i bawb a’th welo ffoi oddiwrthyt;
A dywedyd,
Anrheithiwyd Ninefeh;
Pwy a dosturia wrthi?
O ba le y ceisiaf ddyddanwyr i ti?
8Ai gwell wyt ti na No Amon;
Yr hon sydd yn aros rhwng yr afonydd;
Dyfroedd sydd yn gylch iddi:
I’r hon y mae môr yn rhagfur;
O fôr y mae ei mur.
9Ethiopia fu yn gadernid iddi, a’r Aipht, ac aneirif:
Put a Lubiaid fuont yn gynorthwy i ti.
10Er hyny, hi a aeth i gaethiwed mewn caethglud;
Ië, ei phlant bychain a ddryllid yn mhen pob heol:
Ac ar ei gwŷr anrhydeddus y bwriasant goelbren;
A’i holl wŷr mawrion a rwymwyd mewn gefynau.
11Tithau hefyd a feddwi;
Byddi guddiedig:
Ti hefyd a geisi ymddiffynfa rhag y gelyn,
12Dy holl ymddiffynfeydd;
Ffigysrwydd a’u ffrwythau cyntaf arnynt fyddant:
Os ysgydwir hwynt;
Syrthiant ar enau bwytawr.
13Wele dy bobl fyddant wragedd yn dy ganol di;
Gan agor yr agorwyd pyrth dy dir i’th elynion;
Tân a ysodd dy farau.
14Tyn i ti ddwfr gwarchae;
Cadarnha dy ymddiffynfeydd:
Dos i’r pridd a sathr ar y clai,
Cryfha odyn maen pridd.
15Yno tân a’th ddifa;
Cleddyf a’th dyr ymaith;
Efe a’th ddifa fel y llindys:
Ymluosoga fel y llindys;
Ymluosoga fel locustiaid.
16Amlheaist dy farchnadyddion;
Rhagor sêr y nefoedd:
Gwasgarodd y llindys ac ehedodd ymaith.
17Dy dywysogion sydd fel locustiaid;
A’th uchel swyddogion fel heidiau o geiliogod rhedyn:
Y rhai a wersyllant yn y cloddiau ar ddydd oerfel;
Cododd haul ac ehedasant ymaith;
Ac nis adwaenir eu lle hwynt pa le y buont.
18Cysgodd dy fugeiliaid, frenin Assuria;
Dy bendefigion a orweddant:
Gwasgarwyd dy bobl ar y mynyddoedd,
Ac nid oes a’u casgl.
19Nid oes iachad i’th archoll;
Dolurus yw dy weli:
Pawb ag a glywant son am danat,
A gurant law arnat;
O herwydd dros bwy nad aeth dy ddrygioni bob amser.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.