Hosea 9 - The Minor Prophets 1881 (John Davies, Ietwen)

PEN. IX.—

1Na lawenycha Israel,

Na orfoledda fel y bobloedd;

Canys puteiniaist oddiwrth dy Dduw:

Hoffaist wobr ar bob llawr dyrnu ŷd.

2Llawr dyrnu a chafn gwin nis portha hwynt:

A’r gwin newydd a’i twylla hi.

3Ni thrigant yn ngwlad yr Arglwydd:

Ac Ephraim a ddychwel i’r Aipht;

Ac yn Assuria y bwytant beth aflan.

4Ni thywalltant win i’r Arglwydd,

A’u haberthau ni byddant felus ganddo;

Byddant iddynt fel bara galarwyr;

Pawb ag a fwytaont o hono a halogir:

Canys eu bara sydd iddynt eu hunain;

Ni ddaw i dŷ yr Arglwydd.

5Pa beth a wnewch ar ddydd cymanfa:

Ac ar ddydd gwyl yr Arglwydd.

6Canys wele, hwy a aethant ymaith oddiwrth ddinystr;

Yr Aipht a’u casgl hwynt, Moph a’u cladd hwynt:

Hyfryd aneddau

eu harian hwynt,

Danadl a’u hetifeddant,

Drain fyddant yn eu preswylfëydd hwynt.

7Dyddiau yr ymweliad a ddaethant,

Dyddiau talu y pwyth a ddaethant;

Israel a gânt wybod:

Ffol yw y proffwyd,

Ynfyd yw y gwr ysbrydol;

Am dy fawr anwiredd;

Mawr ddifrod fydd hefyd.

8Gwyliedydd Ephraim pobl fy Nuw,

Proffwyd, magl heliwr ydyw ar ei holl ffyrdd;

Rhwyd a guddiasant yn nhŷ ei Dduw.

9Ymlygrasant megys yn nyddiau Gibeah:

Efe a gofia eu hanwiredd hwynt;

Efe a ymwel â’u pechodau hwynt.

10Fel grawn yn yr anialwch y cefais Israel;

Megys ffigysen gynar ar ffigysbren, ar ei phen;

Y gwelais eich tadau:

Hwy a aethant at Baal Peor,

Ac a ymddidolasant at gywilydd;

A bu ffieidd-derau fel y carasant.

11Ephraim, eu gogoniant a eheda fel aderyn;

Fel nad esgoront, ac na feichiogont, ac nad ymddygont.

12Canys os magant eu plant;

Ymddifadaf hwynt o ddynion:

Canys gwae fydd iddynt pan ymadawyf oddiwrthynt.

13Ephraim sydd fel y gwelais Tyrus a blanwyd mewn trigfan (brydferth):

Ond Ephraim sydd i ddwyn allan ei blant i’r lleiddiad.

14Dyro iddynt Arglwydd, beth a roddi:

Dyro iddynt groth yn erthylu;

A bronau hespion.

15Eu holl ddrygioni hwynt yn Gilgal,

Canys yno y caseais hwynt;

Am ddrygioni eu gweithredoedd hwynt;

Bwriaf hwynt allan o’m tŷ:

Ni chwanegaf eu caru hwynt;

Eu holl dywysogion ydynt wrthnysig.

16Ephraim a darawyd;

Eu gwreiddyn a wywodd,

Ffrwyth ni ddygant:

Os cenedlant hefyd;

Eto lladdaf anwyliaid eu crothau.

17Fy Nuw a’u gwrthyd hwynt;

Am na wrandawsant arno ef:

A byddant grwydriaid yn mhlith y cenedloedd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help