1Aeth anrheithiwr i fyny i’th erbyn,
Cadw amddiffynfa;
Gwylia ffordd, cryfha lwynau;
Cadarnha nerth yn fawr.
2Canys trodd yr Arglwydd heibio y traha ar Jacob;
Fel y traha fu ar Israel:
Canys anrheithwyr a’u hanrheithiasant;
A’u cangenau a ddystrywiasant.
3Tarian ei wŷr grymus sydd goch,
Gwŷr o nerth a wisgwyd âg ysgarlad;
Tanllyd yw dur y cerbyd ar ddydd ei barotoad:
A’r ffyn gwaew a ysgydwir.
4Y cerbydau a gynddeiriogant yn yr heolydd;
Rhedant draw ac yma yn y prif ffyrdd:
Eu gwelediad sydd fel lampau;
Fel y mellt y rhuthrant.
5Efe a gofia ei wŷr gwychion;
Tripiant ar eu ffyrdd:
Prysurant at ei chaer hi;
A pharatowyd y gysgodfa.
6Pyrth yr afonydd a agorwyd;
A’r palas a lesgaodd.
7Ac y mae wedi ei benderfynu,
Hi a gaethgludwyd, gwnaed iddi fyned i fyny:
A’i morwynion yn cwyno fel llais colomenod;
Gan guro ar eu calonau.
8A Ninefeh,
Fel llyn o ddyfroedd y bu ei dyfroedd hi.
Ac y maent hwy yn ffoi;
Sefwch, sefwch,
Ac nid oes a edrycho yn ol.
9Ysbeilwch arian, ysbeiliwch aur:
Ac nid oes diwedd i’r ystor;
Gogoneddus ydyw gan yr holl nwyddau dymunol.
10Gwag llwyr wag ac anrheithiedig yw hi:
A chalon yn toddi a gliniau yn crynu,
A phoen yn yr holl lwynau;
Ac wynebau pawb o honynt a gasglasant barddu.
11Pa le y mae trigfan llewod?
A bwydfa fu hi i’r llewod ieuainc;
Yno lle y rhodiai llew, llewes, cenaw llew,
Ac nid oedd a’u dychrynai.
12Llew yn ysglyfaethu digon i’w genawon;
Ac yn llindagu i’w lewesau:
Ac efe a lanwai ag ysglyfaeth ei ffauau;
A’i lochesau ag ysbail.
13Wele fi atat, medd Arglwydd y lluoedd;
A mi a losgaf ei cherbyd hi mewn mwg;
A chleddyf a ddifa dy lewod ieuainc:
A thoraf ymaith o’r tir dy ysglyfaeth;
Ac ni chlywir mwyach lais dy genadau.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.