Hosea 1 - The Minor Prophets 1881 (John Davies, Ietwen)

PEN. I.—

1Gair yr Arglwydd yr hwn a fu at Hosea, fab Beeri; yn nyddiau Uzziah, Jotham, Ahaz, Hezeciah, breninoedd Judah, ac yn nyddiau Jeroboam mab Joas, brenin Israel.

2Dechreu gair yr Arglwydd trwy Hosea:

A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Hosea,

Dos, cymer i ti wraig o butain a phlant puteindra,

O herwydd gan buteinio y puteiniodd y wlad;

Oddiar ol yr Arglwydd.

3Ac efe a aeth ac a gymerodd Gomer merch Diblaim:

A hi a feichiogodd ac a anodd iddo fab.

4A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho;

Galw ei enw ef Jezreel:

Canys yn mhen ychydig eto yr ymwelaf

A thŷ Jehu am waed Jezreel;

A gwnaf i freniniaeth tŷ Israel ddarfod.

5A bydd yn y dydd hwnw

Y toraf fwa Israel;

Yn nyffryn Jezreel.

6A hi a feichiogodd eilwaith, ac a esgorodd ar ferch;

Ac efe a ddywedodd wrtho,

Galw ei henw hi Lo Ruchamah

Am na ychwanegaf mwyach dosturio wrth dŷ Israel;

Fel gan faddeu y maddeuwn iddynt.

7Ond mi a dosturiaf wrth dŷ Judah,

Ac a’u hachubaf hwynt trwy yr Arglwydd eu Duw;

Ac nid achubaf hwynt trwy fwa a thrwy gleddyf, a thrwy ryfel;

A thrwy feirch, a thrwy farchogion.

8A hi a ddiddyfnodd Lo Ruchamah;

Ac a feichiogodd ac a esgorodd ar fab.

9Ac efe a ddywedodd,

Galw ei enw ef Lo Ammi;

Canys nid ydych bobl i mi;

Ac ni byddaf inau yn Dduw i chwi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help