Hosea 4 - The Minor Prophets 1881 (John Davies, Ietwen)

PEN. IV.—

1Gwrandewch air yr Arglwydd, meibion Israel: Canys y mae cwyn gan yr Arglwydd â thrigolion y wlad;

Am nad oes gwirionedd, ac nad oes trugaredd, ac nad oes gwybodaeth o Dduw yn y wlad.

2Tyngu a dywedyd celwydd;

A lladd, a lladrata, a godinebu a dorant allan:

A gwaed a gyffwrdd a gwaed.

3Am hyny y galara y wlad;

Ac y llesga pawb sydd yn trigo ynddi;

Ynghyd âg anifeiliaid y maes ac ehediaid yr awyr:

A physgod y môr hefyd a ddarfyddant.

4Eto, nid oes ddyn a ddadleua, ac nid oes ddyn a gerydda:

A’th bobl sydd fel rhai a ymrysonent âg offeiriaid.

5A thi a syrthi y dydd:

A phroffwyd hefyd a syrth gyda thi y nos:

A mi a ddyfethaf dy fam.

6Fy mhobl a ddyfethir o eisiau gwybodaeth:

Am i ti wrthod gwybodaeth,

Minau hefyd a’th wrthodaf dithau rhag bod yn offeiriad i mi;

A thi a annghofiaist gyfraith dy Dduw;

Minau hefyd a annghofiaf dy blant dithau.

7Fel yr amlhauwyd hwynt, felly y pechasant i’m herbyn:

Eu gogoniant hwythau a newidiaf am warth.

8Pech aberth fy mhobl a fwytant:

Ac yn eu hanwiredd hwynt yr ymhyfryda eu henaid.

9Ac megys y bydd y bobl, felly yr offeiriad:

Ac ymwelaf âg ef am ei ffyrdd;

Ac ad-dalaf iddo ei weithredoedd.

10hwy a fwytant ac nis diwellir hwynt;

Puteiniant ac nid amlhant:

Am iddynt adael gwasanaethu yr Arglwydd.

11Godineb, a gwin, a gwin newydd a gymer ymaith eu calon.

12Fy mhobl a ymofyn â’u pren;

A’u ffon a fynega iddynt:

Canys ysbryd puteindra a barodd gyfeiliorni;

A phuteiniasant oddiwrth eu Duw.

13Ar benau y mynyddoedd yr aberthant,

Ac ar y bryniau yr arogldarthant:

Dan dderwen, a phoplysen, a phystac,

Am fod yn dda ei chysgod:

Am hyny y puteinia eich merched,

A’ch gwauddau a odinebant.

14Nid ymwelaf a’ch merched pan buteiniant,

Nac a’ch gwauddau pan odinebant;

Canys hwynt eu hunain a ymddidolant gyda y puteiniaid;

A chyda’r merched aflan yr aberthant,

A phobl ag na ddeallant a syrthiant.

15Os yn puteinio yr wyt ti, Israel,

Na pheched Judah:

Ac nac ewch i fyny i Gilgal,

Ac nac ewch i fyny i Bethafen;

Ac na thyngwch byw yr Arglwydd.

16Canys fel anner anhywaith;

Yr anhyweithodd Israel:

Yn awr yr Arglwydd a’u portha hwynt;

Fel oen mewn ëangle.

17Ephraim a gysylltwyd âg eilunod:

Gad iddo.

18Trodd eu gwin hwynt:

Gan buteiuio y puteiniasant;

Ei llywodraethwyr a hoffasant moeswch gywilydd.

19Gwynt a’i rhwymodd hi yn ei hadenydd:

A bydd arnynt gywilydd o herwydd eu haberthau.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help