1Yn yr wythfed mis yn yr ail flwyddyn i Darius; y bu gair yr Arglwydd at Zecharïah, mab Berecïah, mab Ido y proffwyd gan ddywedyd:
2Digiodd yr Arglwydd yn ddirfawr wrth eich tadau.
3A thi a ddywedi wrthynt,
Fel hyn y dywedodd Arglwydd y lluoedd:
Dychwelwch ataf fi;
Medd Arglwydd y lluoedd:
A mi a ddychwelaf atoch chwi;
Medd Arglwydd y lluoedd.
4Na fyddwch fel eich tadau,
Y rhai y galwodd y proffwydi o’r blaen arnynt gan ddywedyd,
Fel hyn y dywedodd Arglwydd y lluoedd;
Dychwelwch yn awr oddiwrth eich ffyrdd drwg a’ch gweithredoedd drwg:
Ac ni chlywsant ac ni wrandawsant arnaf,
Medd yr Arglwydd.
5Eich tadau,
Pa le y maent hwy:
A’r proffwydi;
A fyddent hwy byw byth.
6Diau fy ngeiriau a’m deddfau,
Y rhai orchymynais i’m gweision y proffwydi;
Oni oddiweddasant eich tadau:
A hwy a ddywedasant yn ol,
Megys y meddyliodd Arglwydd y lluoedd wneuthur i ni;
Yn ol ein ffyrdd ac yn ol ein gweithredoedd;
Felly y gwnaeth Efe i ni.
7Ar y pedwerydd dydd ar ugain i’r unfed mis ar ddeg, hwnw yw mis Shebat; yn yr ail flwyddyn i Darius y bu gair yr Arglwydd at Zecharïah, mab Berecïah; mab Ido y proffwyd gan ddywedyd:
8Gwelais, y nos,
Ac wele ŵr yn marchogaeth ar farch coch;
Ac efe oedd yn aros rhwng y myrtwydd y rhai oeddent yn y pant:
Ac o’i ol feirch cochion, rhuddion, a gwynion.
9A mi a ddywedais,
Beth yw y rhai hyn fy arglwydd.:
A dywedodd y genad yr hwn a ymddyddanai â mi wrthyf;
Mi a ddangosaf i ti beth yw y rhai hyn.
10A’r gŵr yr hwn oedd yn aros rhwng y myrtwydd a atebodd ac a ddywedodd:
Y rhai hyn yw y rhai a anfonodd yr Arglwydd;
I ymrodio trwy y ddaear.
11A hwy a atebasant genad yr Arglwydd,
Yr hwn oedd yn aros rhwng y myrtwydd;
Ac a ddywedasant,
Ymrodiasom trwy y ddaear:
Ac wele yr holl ddaear yn aros yn llonydd.
12Ac atebodd cenad yr Arglwydd ac a ddywedodd,
Arglwydd y lluoedd;
Pa hyd na thosturi wrth Jerusalem;
A dinasoedd Judah:
Y rhai y digiaist wrthynt y deng mlynedd a thri-ugain hyn.
13A’r Arglwydd a atebodd,
Y genad yr hwn oedd yn ymddyddan â mi,
Eiriau daionus, eiriau cysurol.
14A’r genad yr hwn oedd yn ymddyddan a mi a ddywedodd wrthyf;
Gwaedda gan ddywedyd,
Fel hyn y dywedodd Arglwydd y lluoedd:
Eiddigeddais ag eiddigedd mawr dros Jerusalem a thros Sïon.
15Ac â digofaint mawr yr wyf yn ddig;
Wrth y cenedloedd difraw:
Y rhai a mi wedi digio ychydig:
Hwythau a gynorthwyasant y drwg.
16Am hyny fel hyn y dywedodd. yr Arglwydd,
Dychwelais i Jerusalem mewn tosturiaethau;
Fy nhŷ a adeiledir ynddi;
Medd Arglwydd y lluoedd:
A llinyn a estynir dros Jerusalem.
17Llefa eto gan ddywedyd,
Fel hyn y dywedodd Arglwydd y lluoedd;
Fy ninasoedd eto a lifant trostynt gan ddaioni:
A’r Arglwydd a gysura Sïon eto;
Ac a ddewis Jerusalem eto.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.