1Pan lefarai Ephraim;
Codai efe ddychryn yn Israel:
Ond efe a bechodd gyda Baal ac a fu farw.
2Ac yn awr ychwanegant bechu,
Ac o’u harian y gwnant iddynt ddelw dawdd yn ol eu deall,
Delwau yn waith crefftwyr yn gwbl:
Wrthynt hwy y maent yn dywedyd;
Aberthwyr dynion
Cusanent loi.
3Am hyny y byddant fel cwmwl y boreu;
Ac fel y gwlith a ymedy yn foreu:
Fel us a chwythir o lawr dyrnu;
Ac fel mwg o ffumer.
4A myfì yw yr Arglwydd dy Dduw o dir yr Aipht:
A Duw heblaw myfi nid adnabyddi;
A gwaredwr nid oes ond Myfi.
5Myfi a’th adnabum yn y diffaethwch:
Yn nhir sychder mawr:
6Fel yr oedd eu porfa y cawsant eu gwala;
Cawsant eu gwala a chododd eu calon:
Am hyny annghofiasant Fi.
7A myfi a fyddaf iddynt fel llew;
Megys llewpard ar ffordd y dysgwyliaf.
8Cwympaf arnynt fel arth wedi colli ei chenawon;
Rhwygaf orchudd eu calon hwynt:
A difaf hwynt yno fel llew;
Bwystfil y maes a’u llerpia hwynt.
9Yn dy ddinystr Israel,
Diau mai ynof fi y mae dy gymorth.
10Yn awr pa le y mae dy frenin;
Yr hwn a’th weryd yn dy holl ddinasoedd:
A’th farnwyr;
Am y rhai y dywedaist;
Dyro i mi frenin a thywysogion.
11Rhoddwn i ti frenin yn fy nig;
A chymerwn ef maith yn fy llid.
12Rhwymwyd anwiredd Ephraim;
Cuddiwyd ei bechod.
13Gwewyr un yn esgor a ddeuant arno:
Mab annghall yw efe;
Canys nid arosai amser yn esgoreddfa plant.
14O law y byd isod yr achubwn hwynt;
Oddiwrth angeu y gwaredwn hwynt:
Byddwn yn ddifrod i ti angeu,
Byddwn yn dranc i ti fyd isod;
Cuddid edifeirwch o’m golwg.
15Er y byddai yn ffrwythlon yn mhlith brodyr:
Daw gwynt y dwyrain,
Gwynt yr Arglwydd yn codi o’r anialwch,
Ac efe a sych ei bydew ef,
Ac a ddysbydda ei ffynon ef;
Efe a ysbeilia drysorfa pob llestr dymunol.
16Samaria a wneir yn euog;
Am wrthryfela o honi yn erbyn ei Duw:
Trwy y cleddyf y syrthiant;
Eu plant bychain a ddryllir;
A’u gwragedd beichiogon a rwygir.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.