1Gwrandewch y gair hwn gwartheg Bashan,
Y rhai sydd yn mynydd Samaria;
Y rhai sydd yn gorthrymu tlodion;
Y rhai sydd yn dryllio rhai anghenog:
Y rhai a ddywedant wrth eu harglwyddi, Rho i ni i yfed.
2Tyngodd yr Arglwydd Iôr trwy ei santeiddrwydd;
Wele ddyddiau yn dyfod arnoch
Y dwg efe chwi ymaith â bachau;
A’ch hiliogaeth â bachau pysgota.
3A chwi a ewch allan i adwyau bob un ar ei chyfer:
A chwi a deflir i Armenia medd yr Arglwydd.
4Ewch i Bethel a throseddwch;
I Gilgal a chwanegwch droseddu;
A dygwch eich aberthau yn y boreu;
Eich degymau bob tri dyddiau.
5A chan losgi toes lefeinllyd yn foliant;
Cyhoeddwch offrymau gwirfodd, hysbyswch:
Canys felly yr hoffwch, meibion Israel;
Medd yr Arglwydd.
6A hefyd rhoddais i chwi lendid danedd yn eich holl ddinas-oedd;
Ac eisiau bara yn eich holl drigfanau:
Ac ni ddychwelasoch ataf Fi, Medd yr Arglwydd.
7A myfi hefyd a atteliais y gwlaw rhagoch;
Pan oedd eto dri misoedd hyd y cynhauaf;
A pherais wlawio ar un ddinas;
Ac ar ddinas arall ni pherais wlawio:
Un rhandir a gaffai wlaw;
A’r rhandir yr hon ni wlawiai arni a wywai.
8A dinasoedd dwy a thair,
A wibiasant i ddinas arall i yfed dwfr;
Ac nis diwellid hwynt:
Ac ni ddychwelasoch ataf Fi,
Medd yr Arglwydd.
9Tarewais chwi â phoethwynt ac â malldod;
Amledd eich gerddi a’ch gwinllanoedd a’ch ffigyswydd a’ch olewydd a ysai y locust:
Ac ni throisoch ataf Fi,
Medd yr Arglwydd.
10Anfonais haint yn eich mysg fel y bu yn yr Aipht;
Eich gwyr ieuainc a leddais â’r cleddyf;
Gyda dwyn ohonof ymaith eich meirch:
A chodais ddrewdod eich gwersylloedd i’ch ffroenau;
Ac ni throisoch ataf Fi,
Medd yr Arglwydd.
11Mi a ddymchwelais yn eich plith,
Fel yr ymchwelodd Duw Sodom a Gomorah;
A buoch fel pentewyn wedi ei achub o’r llosgfa;
Ac ni throisoch ataf Fi, Medd yr Arglwydd.
12Gan hyny fel hyn y gwnaf i ti, Israel:
O herwydd mai hyn a wnaf i ti;
Bydd barod Israel i gyfarfod a’th Dduw.
13Canys wele lluniwr y mynyddoedd a chreawdwr gwynt,
A’r hwn a fynega i ddyn beth yw ei feddwl;
Yn gwneuthur gwawr yn dywyllwch;
Ac a gerdd ar uchelderau daear:
Yr Arglwydd, Duw y lluoedd yw ei enw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.