1Fel hyn y dangosodd yr Arglwydd Iôr i mi:
Ac wele fasgedaid o ffrwythau haf.
2Ac efe a ddywedodd, Pa beth a weli di, Amos:
A mi a ddywedais,
Basgedaid o ffrwythau haf:
A’r Arglwydd a ddywedodd wrthyf,
Daeth y diwedd ar fy mhobl Israel;
Ni chwanegaf fyned heibio iddynt mwyach.
3A chaniadau teml a droir yn alarnad ar y dydd hwnw;
Medd yr Arglwydd Iôr:
Lluaws o gelaneddau;
Yn mhob lle a deifl ddystawrwydd.
4Gwrandewch hyn,
Y rhai a ddyheuwch am anghenog:
A chan beri i dlodion gwlad ddarfod.
5Gan ddywedyd,
Pa bryd yr â dydd y newydd loer heibio,
Fel y gwerthom ŷd;
A’r sabbath,
Fel yr agorom wenith:
Gan fychanu epha a mwyhau sicl;
A thrwy dwyll wneuthur clorianau annghydbwys.
6Gan brynu tlodion am arian;
A gwr anghenus er pâr o sandalau:
A ni a werthwn wehilion gwenith.
7Tyngodd yr Arglwydd trwy ogoniant Jacob:
Nid annghofiaf byth eu holl weithredoedd hwynt.
8Oni chryn y ddaear am hyn;
Ac y galara ei holl breswylwyr:
A hi a gyfyd i gyd fel afon;
A hi a ddygir ymaith ac a ostwng megys afon yr Aipht.
9A bydd yn y dydd hwnw,
Medd yr Arglwydd Iôr:
Y gwnaf i’r haul fachludo haner dydd:
Ac y tywyllaf y ddaear ar ddydd goleu.
10A throaf eich gwyliau yn alar,
A’ch holl ganiadau yn gwynfan;
A dygaf sachlîan ar yr holl lwynau;
A moelni ar bob pen:
A gosodaf iddi alar fel am unig blentyn;
A’i diwedd fel dydd chwerw.
11Wele ddyddiau yn dyfod,
Medd yr Arglwydd Iôr;
Yr anfonaf newyn i’r tir:
Nid newyn am fara ac nid syched am ddwfr;
Ond am gael clywed geiriau yr Arglwydd.
12A hwy a grwydrant o fôr i fôr;
Ac o’r gogledd hyd y dwyrain:
Gwibiant i geisio gair yr Arglwydd,
Ac nis cânt.
13Yn y dydd hwnw y llewyga y gwyryfon glân,
A’r meibion ieuainc trwy syched.
14Y rhai a dyngant trwy bechod Samaria;
Ac a ddywedant,
Byw yw dy dduw di, Dan;
A byw yw ffordd Beersheba:
A hwy a syrthiant ac ni chodant mwyach.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.