1Yn y seithfed mis, a’r unfed dydd ar ugain i’r mis y bu gair yr Arglwydd trwy law Haggai y proffwyd, gan ddywedyd:
2Dywed yn awr wrth Zerubabel, mab Shaltiel, llywydd Judah, ac wrth Jehoshua. mah Jehosadac, yr offeiriad mawr, ac wrth weddill y bobl, gan ddywedyd:
3Pwy yn eich plith a adawwyd,
Yr hwn a welodd y tŷ hwn;
Yn ei ogoniant cyntaf:
A pha beth y gwelwch chwi ef yn awr,
Onid yw fel y mae efe megys dim yn eich golwg.
4Ond yn awr ymgryfha Zerubabel,
Medd yr Arglwydd,
Ac ymgryfha, Jehoshua, mab Jehosadac yr offeiriad mawr,
Ac ymgryfhewch holl bobl y wlad, medd yr Arglwydd,
A gweithiwch:
Canys yr wyf fi gyda chwi,
Medd Arglwydd y lluoedd.
5Y gair yr hwn a amodais â chwi pan ddaethoch allan o’r Aipht;
A’m hysbryd sydd yn aros yn eich mysg:
Nac ofnwch.
6Canys fel hyn y dywedodd Arglwydd y lluoedd;
Eto unwaith mewn ychydig,
A mi a ysgydwaf y nefoedd a’r ddaear;
A’r môr a’r sychdir.
7A mi a ysgydwaf yr holl genedloedd;
A daw dymuniant yr holl genedloedd:
A llanwaf y tŷ hwn â gogoniant;
Medd Arglwydd y lluoedd.
8Eiddof fi yr arian ac eiddof fi yr aur;
Medd Arglwydd y lluoedd.
9Bydd mwy gogoniant y tŷ diweddaf hwn na’r cyntaf:
Medd Arglwydd y lluoedd:
Ac yn y lle hwn y rhoddaf dangnefedd;
Medd Arglwydd y lluoedd.
10Yn y pedwerydd dydd ar ugain, o’r nawfed mis, yn yr ail flwyddyn i Darius y bu gair yr Arglwydd trwy law Haggai y proffwyd gan ddywedyd:
11Fel hyn y dywedodd Arglwydd y lluoedd; gofyn yn awr y gyfraith i’r offeiriaid gan ddywedyd:
12wele dwg un gig santaidd yn nghwr ei wisg, ac a gyffwrdd â’i gŵr â’r bara, ac a’r isgell, ac â’r gwin, ac â’r olew, ac â phob bwyd; a fydd efe santaidd? a’r offeiriaid a atebasant ac a ddywedasant, Na fydd.
13A Haggai a ddywedodd: Os cyffwrdd un a fo aflan gan gorff marw â dim o’r pethau hyn, a fydd efe yn aflan? a’r offeiriaid a atebasant ac a ddywedasant, Bydd yn aflan.
14Ac atebodd Haggai ac a ddywedodd,
Felly y mae y bobl hyn ac felly y mae y genedl hon ger fy mron I,
Medd yr Arglwydd:
Ac felly y mae holl waith ei dwylaw:
A’r hyn a offrymant yno,
Aflan yw efe.
15Ac yn awr meddyliwch, atolwg;
O’r dydd hwn ac oddiar hyny,
Cyn gosod careg ar gareg yn nheml yr Arglwydd;
16Oddiar y buont,
Deuid at dwr o ugain llestraid,
Deg ydoedd:
Deuid at y cafn gwin i dynu deg a deugain y gwyryf;
Ac ugain oedd.
17Tarewais chwi â llosgfa ac â malldod;
A holl waith eich dwylaw â’r cenllysg:
Ac ni throisoch chwi ataf Fi,
Medd yr Arglwydd.
18Ystyriwch yn awr, o’r dydd hwn ac oddiar hyny, o’r pedwerydd dydd a’r ugain i’r nawfed mis, hyd oddiar y sylfaenwyd teml yr Arglwydd, ystyriwch.
19A ydyw yr had eto yn yr ystordŷ;
A’r winwydden eto, a’r ffigyswydden, a’r pomgranad, a’r pren olew ni ddwg ffrwyth;
O’r dydd hwn y bendithiaf.
20A bu gair yr Arglwydd yr ail waith at Haggai ar y pedwerydd a’r ugain i’r mis, gan ddywedyd:
21Dywed wrth Zerubabel, llywydd Judah, gan ddywedyd:
Myfi wyf yn ysgwyd y nefoedd a’r ddaear.
22Ac a ymchwelaf orsedd teyrnasoedd;
Ac a ddinystriaf gryfder teyrnasoedd y cenedloedd:
Ac a ymchwelaf gerbyd a’i gerbydwyr;
A meirch a’u marchogion a syrthiant;
Pob un gan gleddyf ei frawd.
23Yn y dydd hwnw, medd Arglwydd y lluoedd,
Y’th gymeraf di, Zerubabel mab Shealtiel, fy ngwas, medd yr Arglwydd;
A gosodaf di fel sêl:
Canys ymhyfrydais ynot,
Medd Arglwydd y lluoedd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.