1A thrachefn y codais fy llygaid ac yr edrychais: ac wele ròl yn ehedeg.
2Ac efe a ddywedodd wrthyf, Beth a weli di: a dywedais, Mi a welaf ròl yn ehedeg; ei hyd yn ugain cufydd, a’i lled yn ddeg cufydd.
3Ac efe a ddywedodd wrthyf;
Hon yw y felldith;
Yr hon sydd yn myned allan dros wyneb yr holl wlad:
Canys pob un a ladrato,
A dorir ymaith oddiyma yn ei hol;
A phob un a dyngo;
A dorir ymaith oddiyma yn ei hol.
4Dygais hi allan medd Arglwydd y lluoedd;
A hi a ddaw i dŷ y lleidr;
Ac i dŷ yr hwn a dyngo trwy fy enw I yn gelwyddog:
A hi a erys yn nghanol ei dŷ ef;
Ac a’i difa ef a’i goed a’i gerig.
5A’r genad a ymddyddanai â mi a aeth allan ac a ddywedodd wrthyf, Cyfod yn awr dy lygaid ac edrych; beth yw hon sydd yn myned allan.
6A mi a ddywedais beth yw hi: ac efe a ddywedodd, hon yw yr ephah sydd yn myned allan; ac efe a ddywedodd, dyma eu hagwedd hwynt yn yr holl wlad.
7Ac wele dalent o blwm wedi ei chodi i fynu; a thyma wraig yn eistedd yn nghanol yr ephah.
8Ac efe a ddywedodd, Dyma y Drygioni; ac a’i taflodd hi i ganol yr ephah: ac a daflodd y pwys plwm ar ei genau hi.
9A chyfodais fy llygaid ac edrychais ac wele ddwy wragedd yn myned allan, a gwynt yn eu hesgyll; ac iddynt yr oedd esgyll fel esgyll y ciconia: a chodasant yr ephah rhwng y ddaear a’r nefoedd.
10A mi a ddywedais wrth y genad oedd yn ymddyddan â mi: i ba le y mae y rhai hyn yn myned â’r ephah.
11Ac efe a ddywedodd wrthyf, i adeiladu iddi dŷ yn ngwlad Sinaar: i’w sicrhau a rhoi iddi orphwys yno ar ei lle.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.