Jonah 3 - The Minor Prophets 1881 (John Davies, Ietwen)

PEN. III.—

1A bu gair yr Arglwydd at Jonah yr ail waith,

2gan ddywedyd, Dos i Ninefeh y ddinas fawr, a chyhoedda wrthi y genadwri a ddywedwyf wrthyt.

3A Jonah a gyfododd ac a aeth i Ninefeh yn ol gair yr Arglwydd: a Ninefeh oedd ddinas fawr iawn; yn daith tri diwrnod.

4A dechreuodd Jonah fyned trwy y ddinas daith un diwrnod: ac efe a lefodd ac a ddywedodd, deugain niwrnod eto a Ninefeh a ddinystrir.

5A gwyr Ninefeh a gredasant yn Nuw; ac a gyhoeddasant ympryd ac a wisgasant sachlieiniau o fawr o honynt hyd fach o honynt.

6A’r sôn a ddaeth at frenin Ninefeh; ac efe a gyfododd oddiar ei orsedd ac a ddiosgodd ei fantell oddiam dano, ac a wisgodd sachlian, ac a eisteddodd ar y lludw.

7Ac efe a barodd gyhoeddi a dywedyd yn Ninefeh trwy orchymyn y brenin a’i bendefigion, gan ddywedyd: y dyn a’r anifail, yr eidion a’r ddafad, na phrofant ddim, na phorant, ac nac yfant ddwfr.

8A gwisger y dyn a’r anifail a sachlieiniau; a galwant ar Dduw yn lew a dychwelant bob un oddiwrth ei ffordd ddrwg; ac oddiwrth y trais sydd yn eu dwylaw.

9Pwy a wyr a dry ac y tosturia Duw: a throi oddiwrth angerdd ei ddigofaint, ac na’n difether ni.

10A gwelodd Duw eu gweithredoedd hwynt, droi o honynt o’u ffordd ddrygionus: a thosturiodd Duw am y drwg yr hwn y dywedasai y gwnai iddynt ac nis gwnaeth.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help