Micah 2 - The Minor Prophets 1881 (John Davies, Ietwen)

PEN. II.—

1Gwae y rhai a ddychymygant anwiredd,

A’r rhai a wnant ddrygioni ar eu gwelyau:

Pan oleuo y boreu y gwnant,

Am ei fod ar eu llaw hwynt.

2A maesydd a chwenychant ac a ysbeiliant;

A thai, ac a’u cymerant:

Gorthrymant hefyd ŵr a’i dŷ;

A dyn a’i etifeddiaeth.

3Gan hyny fel hyn y dy wedodd yr Arglwydd;

Wele myfi yn dychymygu drwg yn erbyn y teulu hwn:

Yr hwn ni thynwch eich gyddfau oddiwrtho,

Ac ni rodiwch yn uchel:

Canys amser drygfyd fydd hwnw.

4Yn y dydd hwnw y codir diareb am danoch,

A galerir galarnad gofidus,

Yn dywedyd,

Gan anrheithio y’n anrheithiwyd;

Etifeddiaeth fy mhobl a newidiodd:

Oh am iddo ymadael a mi i ddychwelyd;

Ein maesydd a rana.

5Am hyny ni bydd i ti;

A fwrw linyn mesur am etifeddiaeth;

Yn nghynulleidfa yr Arglwydd.

6Na phroffwydwch;

Proffwydant:

Ni phroffwydant i’r rhai hyn;

Nid ymedy eu cywilydd.

7Yr hwn a elwir tŷ Jacob,

A fyrhaodd ysbryd yr Arglwydd;

Ai y rhai hyn yw ei weithredoedd ef:

Oni wna fy ngeiriau ddaioni;

I’r neb a rodio yn uniawn.

8A’m pobl eisoes a godent i fyny yn elyn;

Oddiar y wisg isaf y diosgech fantell:

Oddiam y rhai a ânt heibio yn ddiofal;

Y rhai a ddychwelent o ryfel.

9Gwragedd fy mhobl a fwriwch allan;

O’u tŷ hyfryd:

Oddiar eu plant;

Y cymerwch fy harddwch byth.

10Codwch ac ewch;

Canys nid hon yw yr orphwysfa:

Am ei haflendid y dinystrir hi,

A thost fydd y dinystr.

11Os gŵr yn rhodio mewn ysbryd celwyddog,

A ddywed yn gelwyddog;

Proffwydaf i ti am win a diod gadarn:

Efe fydd proffwyd y bobl hyn.

12Gan gasglu y’th gasglaf Jacob oll,

Gan gynull y cynullaf weddill Israel;

Yn nghyd y gosodaf hwynt fel defaid corlan:

Fel praidd yn nghanol eu porfan;

Trystiant gan amledd dyn.

13Yr hwn a dyr ffordd a aeth i fyny o’u blaen hwynt;

Torasant a thramwyasant i’r porth,

Ac aethant trwyddo:

A thramwya eu brenin o’u blaen hwynt;

A’r Arglwydd yn ben arnynt.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help