1A bu gair yr Arglwydd at Jonah, mab Amitta gan
2ddywedyd: Cyfod, dos i Nineveh y ddinas fawr, a llefa yn ei herbyn: canys dyrchafodd eu drygioni hwynt ger fy mron.
3A Jonah a gyfododd i ffoi i Tarshish oddi gerbron yr Arglwydd: ac a aeth i waered i Joppa, ac a gafodd long yn myned i Tarshish, ac a dalodd ei phris hi ac a aeth i waered iddi i fyned gyda hwynt i Tarshish oddi gerbron yr Arglwydd.
4A’r Arglwydd a gyfododd wynt mawr yn y môr; a bu yn y môr dymestl fawr, a thebygwyd y dryllid y llong.
5A’r morwyr a ofnasant, ac a lefasant bob un ar ei dduw; ac a fwriasant y dodrefn oedd yn y llong i’r môr i ymysgafnhau oddiwrthynt: a Jonah a aethai i waered i waelod y llong, ac a orweddasai ac a gysgasai.
6A meistr y llong a ddaeth ato ef; ac a ddywedodd wrtho, beth ddarfu i ti gysgadur: cyfod, galw ar dy dduw; fe allai yr ystyr y duw wrthym ac na’n coller.
7A dywedasant bob un wrth ei gyfaill, deuwch a bwriwn goelbrenau; a gwybyddwn o achos pwy y mae y drwg hwn i ni: a bwriasant goelbrenau, a’r goelbren a syrthiodd ar Jonah.
8A dywedasant wrtho, mynega, atolwg, i ni; o achos peth y mae y drwg hwn i ni: pa beth yw dy waith, ac o ba le y deui; beth yw dy wlad ac o ba bobl wyt ti.
9Ac efe a ddywedodd wrthynt, Hebread wyf fi, ac ofni yr wyf fi yr Arglwydd, Duw y nefoedd, yr hwn a wnaeth y môr a’r sychdir.
10A’r dynion a ofnasant ag ofn mawr; ac a ddywedasant wrtho, pa beth yw hyn a wnaethost: canys y dynion a wybuasent mai ffoi yr oedd efe oddi gerbron yr Arglwydd, o herwydd efe a fynegasai iddynt?
11A dywedasant wrtho pa beth a wnawn i ti fel y gostego y môr i ni, canys myned yr oedd y môr a therfysgu.
12Ac efe a ddywedodd wrthynt, cymerwch fi a bwriwch fi i’r môr; a’r môr a ostega i chwi: canys gwn mai o’m hachos i y mae y dymestl fawr hon arnoch chwi.
13A’r dynion a rwyfasant i ddychwelyd i’r tir, ac nid allent, am fod y môr yn myned ac yn terfysgu yn eu herbyn hwy.
14A llefasant ar yr Arglwydd a dywedasant, Atolwg, Arglwydd, na’n dyfether, atolwg, am einioes y gŵr hwn; ac na ddyro i’n herbyn waed gwirion: canys ti, Arglwydd, a wnaethost fel y gwelaist yn dda.
15A hwy a gymerasant Jonah; ac a’i bwriasant ef i’r môr: a llonyddodd y môr a’i gyffro.
16A’r dynion a ofnasant yr Arglwydd âg ofn mawr: ac a aberthasant aberth i’r Arglwydd, ac a adduneddasant addunedau.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.