Zechariah 12 - The Minor Prophets 1881 (John Davies, Ietwen)

PEN. XII.—

1Baich gair yr Arglwydd am Israel:

Medd yr Arglwydd,

Sydd yn estyn wybrenau,

Ac yn sylfaenu daear;

Ac yn llunio ysbryd dyn ynddo.

2Wele fi yn gosod Jerusalem yn gwpan meddwol i’r holl bobloedd o amgylch:

A hefyd am Judah y bydd,

Yn y gwarchae ar Jerusalem.

3A bydd yn y dydd hwnw,

Y gosodaf Ierusalem yn faen trwm i’r holl bobloedd;

Pawb ag a’i codant gan gael eu dryllio a ddryllir:

A chesglir yn ei herbyn hi;

Holl genedloedd y ddaear.

4Yn y dydd hwnw, medd yr Arglwydd,

Y tarawaf bob march â dychryn,

A’i farchog ag ynfydrwydd:

Ac ar dŷ Iudah yr agoraf fy llygaid;

A holl feirch y bobloedd;

A darawaf â dallineb.

5A phenogion Iudah a ddywedant yn eu calon:

Nerth i mi yw preswylwyr Ierusalem;

Trwy Arglwydd y lluoedd eu Duw hwynt.

6Yn y dydd hwnw y gwnaf benogion Iudah,

Fel padellaid o dân mewn coed,

Ac fel ffagl dân mewn ysgub;

Ac ysant ar ddeheu ac ar aswy,

Yr holl bobloedd o amgylch:

A Ierusalem a drig eto yn ei lle,

Yn Ierusalem.

7A’r Arglwydd a achub bebyll Iudah yn gyntaf;

Fel nad ymfawrhao gogoniant tŷ Dafydd,

A gogoniant preswylydd Ierusalem ar Iudah.

8Yn y dydd hwnw,

Yr ymddiffyn yr Arglwydd breswylydd Ierusalem;

A bydd yr egwan yn eu plith y dydd hwnw fel Dafydd:

A thŷ Dafydd fel duwiau;

Fel angel yr Arglwydd o’u blaen hwynt.

9A bydd yn y dydd hwnw:

Y ceisiaf ddyfetha yr holl genedloedd;

Y sydd yn dyfod yn erbyn Ierusalem.

10A thywalltaf ar dŷ Dafydd ac ar breswylydd Ierusalem,

Ysbryd ymbiliau a gweddïau;

Ac edrychant ataf fi yr hwn a wanasant:

A galarant am dano.

Fel galar am yr unig-anedig;

A bydd chwerw wylo am dano,

Fel chwerw wylo am y cyntaf-anedig.

11Yn y dydd hwnw y bydd mawr y galar yn Ierusalem;

Megys galar Hadadrimmon yn nyffryn Megidon.

12A’r wlad a alara:

Yn deuluoedd, yn deuluoedd wrthynt eu hunain,

Teulu tŷ Dafydd wrtho ei hunan,

A’u gwragedd wrthynt eu hunain;

Teulu tŷ Nathan wrtho ei hunan;

A’u gwragedd wrthynt eu hunain.

13Teulu tŷ Lefi wrtho ei hunan;

A’u gwragedd wrthynt eu hunain:

Teulu y Shimeiad wrtho ei hunan;

A’u gwragedd wrthynt eu hunain.

14Yr holl deuluoedd gweddill;

Yn deuluoedd, yn deuluoedd wrthynt eu hunain:

A’u gwragedd wrthynt ei hunain.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help