1A bydd ar ol hyn,
Y tywalltaf fy ysbryd ar bob cnawd;
A’ch meibion a’ch merched a broffwydant:
Eich henafgwyr a freuddwydiant freuddwydion,
Eich gwyr ieuainc;
A welant weledigaethau.
2A hefyd ar y gweision, ac ar y morwynion:
Yn y dyddiau hyny;
Y tywalltaf fy ysbryd.
3A gwnaf ryfeddodau;
Yn y nefoedd ac ar y ddaear:
Gwaed a thân;
A cholofnau mwg.
4Yr haul a droir yn dywyllwch;
A’r lleuad yn waed:
Cyn dyfod dydd yr Arglwydd,
Y dydd mawr ac ofnadwy.
5A bydd yr achubir pob un a alwo ar enw yr Arglwydd:
Canys yn mynydd Sion ac yn Jerusalem y bydd ymwared,
Fel y dywedodd yr Arglwydd;
Ac yn mhlith y gweddillion;
A alwo yr Arglwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.