1Gwrandewch atolwg yr hyn a ddywed yr Arglwydd:
Cyfod dadleu wrth y mynyddoedd;
A chlywed y bryniau dy lais.
2Gwrandewch fynyddoedd ddadl yr Arglwydd;
A chedyrn sylfaeni daear:
Canys y mae dadl gan yr Arglwydd â’i bobl;
Ac âg Israel yr ymryson.
3Fy mhobl beth a wnaethum i ti, Ac yn mha beth y’th flinais:
Tystia wrthyf.
4Canys myfì a’th ddygais i fyny o dir yr Aipht;
Ac a’th ryddheais o dŷ caethiwed:
Ac a anfonais o’th flaen;
Moses, Aaron, a Miriam.
5Fy mhobl cofia atolwg beth a fwriadodd Balac brenin Moab;
A pha beth a atebodd Bilam mab Beor iddo:
O Sittim hyd Gilgal;
Er mwyn gwybod unionderau yr Arglwydd.
6A pha beth y deuaf gerbron yr Arglwydd;
Yr ymgrymaf i’r uchel Dduw:
A ddeuaf ger ei fron ef âg aberthau llosg;
A lloi blwyddiaid.
7A foddlonir yr Arglwydd â miloedd o hyrddod;
A myrddiynau o ffrydiau olew:
A roddaf fi fy nghyntaf-anedig dros fy anwiredd;
Ffrwyth fy nghroth am bechod fy enaid.
8Hysbysodd efe i ti ddyn beth sydd dda:
A pha beth a gais yr Arglwydd genyt,
Ond gwneuthur barn a hoffi trugaredd;
Ac ymostwng i rodio gyda’th Dduw.
9Llef yr Arglwydd a eilw ar ddinas;
A doethineb yw ofni dy enw:
Gwrandewch gerydd a phwy a’i hordeiniodd.
10A oes eto dŷ anwir;
Drysorau anwir:
Ac ephah brin felldigedig.
11A gyfrifwn yn lân gyda chlorianau anghywir;
A chyda chôd o geryg twyllodrus.
12Am fod ei chyfoethogion yn llawn trais;
A dywedyd celwydd o’i thrigolion:
A’u tafod yn dwyllodrus yn eu genau.
13Minau hefyd a ddechreuais dy daro:
Gan ddwyn difrod am dy bechodau.
14Ti a fwyti ac ni’th ddigonir;
A’th wagter a fydd ynot:
A thi a gymeri ymaith ac nid achubi;
A’r hyn a achubech a roddaf i’r cleddyf.
15Ti a heui ac ni fedi:
Ti a sethri olewydden ac nid ymiri âg olew;
A gwin newydd ac nid yfi win.
16A chadw yr ydys at ddeddfau Omri,
A holl waith tŷ Ahab;
A chwi a rodiwch wrth eu cynghorion hwynt:
Fel y’th wnawn yn anghyfanedd,
A’i thrigolion yn ddirmyg;
A chwi a ddygwch warth fy mhobl.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.