Zechariah 4 - The Minor Prophets 1881 (John Davies, Ietwen)

PEN. IV.—

1A’r genad yr hwn oedd yn ymddyddan â mi a ddychwelodd: ac a’m deffroodd fel un a ddeffroir o’i gwsg.

2Ac efe a ddywedodd wrthyf, beth a weli di: a mi a ddywedais, edrychais ac wele oleuedydd aur i gyd, a’i gawg olew ar ei ben, a’i saith lusern arno; saith bibellau yr un oeddent i’r llusernau y rhai oeddent ar ei ben ef.

3A dwy olewydden oddiarno, un o’r tu deheu i’r cawg olew, ac un ar yr aswy iddo.

4A mi a aethum rhagof i ddywedyd wrth y genad oedd yn ymddyddan â mi, gan ddywedyd: beth yw y rhai hyn fy arglwydd.

5Ac atebodd y genad oedd yn ymddyddan â mi ac a ddywedodd wrthyf, oni wyddost beth yw y rhai yma: a dywedais na wn fy arglwydd.

6Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthyf, gan ddywedyd; Hyn yw gair yr Arglwydd at Zerubabel, gan ddywedyd;

Nid trwy lu ac nid trwy nerth;

Ond trwy fy ysbryd I,

Medd Arglwydd y lluoedd.

7Pwy wyt ti y mynydd mawr,

Gerbron Zerubabel y byddi yn wastadedd:

Ac efe a ddwg allan y maen penaf;

Gan waeddi nodded, nodded iddo.

8A bu gair yr Arglwydd ataf gan ddywedyd:

9Dwylaw Zerubabel, a seiliasant y tŷ hwn,

A’i ddwylaw ef a’i gorphenant:

A chei wybod;

Mai Arglwydd y lluoedd a’m hanfonodd atoch.

10Canys pwy a ddiystyrodd ddydd pethau bychain;

A llawenychant a gwelant y blwmed yn llaw Zerubabel:

Y saith hyn,

Llygaid yr Arglwydd ydynt hwy,

Yn cyniwair trwy yr holl ddaear.

11A mi a ddywedais wrtho drachefn: pa beth yw y ddwy olewydden hyn; ar ddeheu y goleuedydd ac ar ei aswy.

12Ac aethum rhagof yr ailwaith i lefaru; ac a ddywedais wrtho: Beth yw y ddwy gangen olewydd, y rhai sydd wrth y ddwy bibell aur, y rhai sydd yn tywallt o honynt yr olew aur.

13Ac efe a ddywedodd wrthyf gan ddywedyd, oni wyddost beth yw y rhai hyn; a dywedais na wn fy arglwydd.

14Ac efe a ddywedodd,

Y rhai hyn yw y ddau olewiedig:

Y rhai sydd yn sefyll gerbron Arglwydd yr holl ddaear.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help