1Baich Ninefeh: Llyfr gweledigaeth Nahum yr Elcosiad.
2Duw eiddigus a dialeddus yw yr Arglwydd;
Dialeddus yw yr Arglwydd a pherchen llid:
Dialeddus yw yr Arglwydd i’w wrthwynebwyr;
A’i gadw a wna i’w elynion.
3Yr Arglwydd sydd hwyrfrydig i ddig a mawr o rym;
A chan ddieuogi ni ddieuoga;
Yr Arglwydd,
Mewn corwynt ac mewn rhyferthwy y mae ei ffordd Ef;
A chwmwl yw llwch ei draed ef.
4Efe a gerydda y môr ac a’i sych ef;
A’r holl afonydd a ddyhysbydda:
Gwywodd Bashan a Charmel;
A gwyrddni Lebanon a wywodd.
5Y mynyddoedd a grynasant rhagddo;
A’r bryniau a doddasant;
A’r ddaear a gododd o’i flaen Ef;
A’r byd a phawb ag a drigant ynddo.
6Pwy a saif o flaen ei lid Ef?
A phwy a gyfyd yn angerdd ei ddigofaint Ef?
Ei lid Ef a dywalltwyd fel tân;
A’r creigiau a ddrylliwyd rhagddo.
7Da yw yr Arglwydd;
Yn amddiffynfa yn nydd cyfyngder;
Ac Efe a edwyn y rhai a ymddiriedant ynddo;
8A thrwy genllif llifeiriol;
Y gwna Efe dranc ar ei lle hi;
A’i elynion a erlid Efe i dywyllwch.
9Beth a ddychymygwch yn erbyn yr Arglwydd;
Efe a wna dranc;
Ni chyfyd cyfyngder ddwywaith.
10Canys tra yn benbleth fel drain;
Ac wrth feddwi yn feddwon:
Yr ysir hwynt fel sofl grinllawn.
11Oddiwrthyt yr aeth allan;
Un yn dychymygu drwg yn erbyn yr Arglwydd:
Un yn cynghori drygioni.
12Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd,
Os ydynt yn llwyddianus ac felly yn eiml;
Ond felly y torir hwynt i lawr ac yr ant heibio.
13Mi a th gystuddiais;
Ni’th gystuddiaf eto.
Ac yn awr toraf ymaith ei wialen oddiarnat:
A drylliaf dy rwymau.
14A’r Arglwydd a orchymynodd am danat;
Na thaener o’th enw mwyach:
Toraf ymaith o dŷ dy dduwiau gerfddelw a delw dawdd:
Gosodaf fedd i ti,
Canys gwael ydwyt.
15Wele ar y mynyddoedd draed un yn mynegu newydd da,
Yn cyhoeddi hawddfyd;
Judah cadw dy wyliau, tâl dy addunedau;
Canys gwr anwir ni chwanega dramwyo trwyot mwyach:
Cwbl dorwyd ef ymaith.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.