1Erchwch gan yr Arglwydd wlaw yn amser diweddar wlaw;
Gwna yr Arglwydd fellt;
Ac a rydd iddynt wlaw yn gawod;
I bob un laswellt yn y maes.
2Canys y delwau teulu a lefarasant dwyll,
A’r dewiniaid a welsant gelwydd;
A breuddwydion ofer a ddywedent:
Gwagedd a roddent yn gysur:
Am hyny y symudwyd hwynt fel defaid;
Cystuddiwyd hwynt am nad oedd bugail.
3Yn erbyn y bugeiliaid yr enynodd fy llid;
Ac â’r bychod yr ymwelaf:
Canys ymwelodd Arglwydd y lluoedd â’i ddeadell tŷ Judah;
Ac a’u gosododd hwynt,
Fel ei harddfarch yn y rhyfel.
4O hono yr â allan gonglfaen,
O hono hoel;
O hono fwa rhyfel:
O hono bob meistr yn nghyd.
5A byddant fel cedyrn yn sathru,
Yn nhom heolydd yn y rhyfel;
Ac ymladdant;
Canys bydd yr Arglwydd gyda hwynt:
A chywilyddiant farchogion meirch.
6A nerthaf dŷ Judah,
A thŷ Joseph a waredaf;
A gwnaf iddynt breswylio,
Canys tosturiais wrthynt;
A byddant fel pe nas gwrthodaswn hwynt:
Canys myfi yw yr Arglwydd eu Duw hwynt
Ac a’u gwrandawaf hwynt.
7A bydd Ephraim fel cadarn;
A’u calon a lawenycha fel trwy win:
A’u meibion a welant ac a lawenychant;
Eu calon a orfoledda yn yr Arglwydd.
8Chwibanaf arnynt a chasglaf hwynt,
Canys gwaredais hwynt:
Ac amlhant fel yr amlhasant.
9A heuais hwynt yn mysg y bobloedd;
Ac yn y gwledydd pell y’m cofiant:
A bydd byw eu meibion ac a ddychwelant.
10A dychwelaf hwynt o wlad yr Aipht;
Ac o Ashur y casglaf hwynt:
Ac i wlad Gilead a Lebanon y dygaf hwynt;
Ac ni cheir lle
iddynt.11Ac efe a dramwya trwy y môr blin,
Ac a dery dònau yn y môr;
A sychir holl waelodion afon:
A disgynir balchder Ashur;
A gwialen yr Aipht a ymedy.
12A nerthaf hwynt yn yr Arglwydd;
Ac yn ei enw ef y rhodiant:
Medd yr Arglwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.