1Gwrandewch y gair yma,
Yr hwn a lefarodd yr Arglwydd am danoch chwi, meibion Israel:
Am yr holl deulu;
Yr hwn a ddygais i fyny o wlad yr Aipht,
Gan ddywedyd,
2Chwi yn unig a adnabum;
O holl deuluoedd y ddaear;
Am hyny ymwelaf â chwi;
Am eich holl anwireddau.
3A rodia dau yn nghyd:
Heb fod o honynt yn gytun.
4A rua llew mewn coedwig;
Ac heb ysglyfaeth ganddo:
A leisia cenaw llew o’i ffau;
Heb ddàl dim.
5A syrth aderyn mewn magl ar y ddaear;
Ac heb fod croglath iddo:
A gyfyd magl oddiar y ddaear;
Ac heb ddàl dim.
6A chwythir udgorn mewn dinas:
Ac heb ddychrynu o’r bobl:
A fydd drwg mewn dinas;
Ac heb i’r Arglwydd ei wneuthur.
7Canys ni wna yr Arglwydd Iôr ddim:
Heb ddadguddio o hono ei ddirgelwch:
I’w weision y proffwydi.
8Rhuodd llew,
Pwy nid ofna;
Yr Arglwydd Iôr a lefarodd,
Pwy ni phroffwyda.
9Perwch glywed ar balasau yn Ashdod;
Ac ar balasau yn ngwlad yr Aipht:
A dywedwch,
Ymgesglwch ar fynyddoedd Samaria;
A gwelwch derfysgoedd lawer o’i mewn;
A’r gorthrymedigion yn ei chanol hi.
10Ac ni fedrant wneuthur uniondeb, medd yr Arglwydd;
Y rhai a bentyrant drais ac ysbail yn eu palasau.
11Am hyny fel hyn y dywedodd yr Arglwydd Iôr;
Cyfyngder a fydd o amgylch y wlad:
Ac efe a dỳn i lawr dy nerth oddiwrthyt;
A’th balasau a ysbeilir.
12Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd;
Fel yr achub y bugail o safn y llew,
Ddwy goes neu ddarn o glust;
Felly yr achubir meibion Israel,
Y rhai sydd yn trigo yn Samaria;
Ar gŵr gwely ac ar sidan glwth.
13Gwrandewch a thystiolaethwch yn nhŷ Jacob:
Medd yr Arglwydd Iôr, Duw y lluoedd.
14Mai yn y dydd yr ymwelwyf ag anwireddau Israel arno ef:
Yr ymwelaf hefyd ag allorau Bethel;
A thorir cyrn yr allor;
A syrthiant i’r llawr.
15A mi a darawaf y tŷ gauaf a’r tŷ haf:
A derfydd y tai ifori,
A dybenir tai lawer,
Medd yr Arglwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.