Amos 5 - The Minor Prophets 1881 (John Davies, Ietwen)

PEN. V.—

1Gwrandewch y gair hwn a godaf am danoch, galarnad, tŷ Israel.

2Gwryf Israel a syrthiodd;

Ni chyfyd mwy:

Hi a daflwyd ar ei thir,

Nid oes a’i cyfyd.

3Canys fel hyn y dywedodd yr Arglwydd Iôr;

Y ddinas yr hon a â allan yn fil a weddill gant:

A’r hon a â allan yn gant a weddill ddeg i dŷ Israel.

4Diau fel hyn y dywedodd yr Arglwydd wrth dŷ Israel:

Ceisiwch fi a byw fyddwch.

5Ac na cheisiwch Bethel;

Ac nac ewch i Gilgal;

Ac na thramwywch i Beersheba:

O herwydd gan gaethgludo y caethgludir Gilgal;

A Bethel a fydd yn ddiddim.

6Ceisiwch yr Arglwydd a byw fyddwch:

Rhag iddo syrthio fel tân ar dŷ Joseph;

A difa o hono ac na byddo i Bethel a’i diffoddo.

7Y rhai a droant farn yn wermod:

Ac a daflasant gyfiawnder i’r ddaear.

8Gwneuthurwr Ceimah a Cesil,

A’r hwn a dry dywyllwch dudew yn foreu;

Ac a dywylla ddydd yn nos:

Yr hwn a eilw ar ddyfroedd y môr,

Ac a’u tywallt ar wyneb y ddaear,

Yr Arglwydd yw ei enw.

9Yr hwn a ddwg ddinystr ar gryfder:

Ac a wna i ddinystr ddyfod ar ymddiffynfa.

10Cas fu ganddynt yr hwn a geryddai yn y porth:

A ffiaidd ganddynt yr hwn a lefarai uniondeb.

11O herwydd hyny am i chwi sathru ar dlawd,

A chymeryd o honoch doll o ŷd ganddo;

Adeiladasoch dai o gerig nadd,

Ond ni thrigwch ynddynt:

Planasoch winllanoedd hyfryd;

Ond nid yfwch eu gwin hwynt.

12Canys mi a adwaen eich holl anwireddau;

A’ch pechodau cryfion;

Y rhai a gystuddiwch wr uniawn,

Y rhai a gymerwch iawn;

A thlodion a droir heibio yn y porth.

13Am hyny y synwyrol a fydd dystaw yn yr amser hwn:

Canys amser drwg ydyw.

14Ceisiwch ddaioni ac nid drygioni,

Fel y byddoch byw:

Ac felly y bydd yr Arglwydd Duw y lluoedd gyda chwi,

Fel y dywedasoch.

15Casewch ddrygioni a cherwch ddaioni;

A gosodwch farn yn y porth:

Fe allai y tosturia yr Arglwydd, Duw y lluoedd, wrth weddill Joseph.

16Am hyny fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, Duw y lluoedd, yr Iôr;

Yn mhob heol y bydd cwynfan;

Ac yn mhob ffordd y dywedir Och, och:

A gelwir arddwr i alaru;

A chwynfan a fydd i’r neb a fedront alarnad.

17Ac yn mhob gwinllan y bydd cwynfan:

Canys tramwyaf trwy dy ganol di,

Medd yr Arglwydd.

18Gwae y rhai a ddymunant ddydd yr Arglwydd:

Beth fydd hwnw i chwi,

Dydd yr Arglwydd,

Efe a fydd yn dywyllwch ac nid yn oleuni.

19Megys pe ffoai gŵr rhag y llew;

A chyfarfod o’r arth âg ef:

A myned i’r tŷ,

A phwyso o’i law ar y mur;

A chnoi o’r sarph ef.

20Onid tywyllwch a fydd dydd yr Arglwydd ac nid goleuni:

A magddu ac heb lewyrch iddo.

21Casheais, ffieiddiais eich gwyliau:

Ac nid ymhyfrydaf yn eich cymanfaoedd.

22Canys os offrymwch i mi aberthau llosg a’ch offrymau bwyd,

Ni byddaf foddlawn:

Ac ar eich pasgedigion yn ebyrth diolch nid edrychaf.

23Symud oddiwrthyf drwst dy ganiadau:

Ac ar beroriaeth dy nablau ni wrandawaf.

24A threigled barnedigaeth fel y dyfroedd:

A chyfiawnder fel llifeiriant cryf.

25A offrymasoch chwi aberthau ac offrymau bwyd i mi,

Yn y diffaethwch ddeugain mlynedd, tŷ Israel.

26Ond dygasoch babell eich Moloch;

A sefyllfan eich delwau:

Seren eich duw;

Yr hwn a wnaethoch i chwi.

27A mi a’ch caethgludaf chwithau y tu hwnt i Damascus,

Medd yr Arglwydd:

Duw y lluoedd yw ei enw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help