Hosea 3 - The Minor Prophets 1881 (John Davies, Ietwen)

PEN. III.—

1A’r Arglwydd a ddywedodd wrthyf,

Dos eto, car wraig;

Hoff ganddi ddrygioni, ac yn odinebus:

Yn ol cariad yr Arglwydd at feibion Israel;

A hwythau yn edrych at dduwiau dyeithr;

Ac yn hoffi teisenau grawn

2A mi a’i prynais hi i mi;

Am bymtheg sicl o arian:

Am homer o haidd a lethec o haidd.

3A mi a ddywedais wrthi,

Aros am danaf lawer o ddyddiau;

Ac na fydd i wr:

A minau hefyd a fyddaf

i tithau.

4Canys llawer o ddyddiau yr erys plant Israel;

Heb frenin ac heb dywysog;

Ac heb aberth, ac heb ddelw;

Ac heb ephod a theraphim.

5Gwedi hyny y dychwel plant Israel;

Ac y ceisiant yr Arglwydd eu Duw;

A Dafydd eu brenin:

Ac a frysiant at yr Arglwydd ac at ei ddaioni ef

Yn y dyddiau diweddaf.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help