Amos 6 - The Minor Prophets 1881 (John Davies, Ietwen)

PEN. VI.—

1Gwae y rhai esmwyth yn Sion;

A’r rhai a ymddiriedant yn mynydd Samaria:

Gwyr nodedig y flaenaf o’r cenedloedd;

Ac atynt hwy y mae tŷ Israel yn dyfod.

2Ewch trosodd i Calneh ac edrychwch;

Ac ewch oddiyno i Hamath Fawr:

A disgynwch i Gath Philistiaid;

Ai gwell ydynt na’r teyrnasoedd hyn;

Ai mwy yw eu terfyn hwynt na’ch terfyn chwi.

3Y rhai ydych yn pellhau dydd drwg:

Ac a ddyneswch at eisteddle trais.

4Y rhai a orweddant ar welyau ifori;

Ac a ymestynant ar eu glythau:

Ac a fwytant ŵyn tewion o’r praidd;

A lloi o’r cut.

5Y rhai a ddadganant gyda’r nabl:

Fel Dafydd dychymygasant iddynt eu hunain offer cerdd.

6Y rhai a yfant mewn phiolau gwin;

Ac a ymirant a’r olew penaf:

Ond nid ymofidiant am ddryllio Joseph.

7Am hyny yn awr hwy a ddygir yn gaeth gyda’r cyntaf a gaethgludir:.

Ac ymedy crechwen y rhai a ymestynant.

8Tyngodd yr Arglwydd Iôr i’w einioes,

Medd yr Arglwydd Duw y lluoedd;

Ffiaidd genyf falchder Jacob;

A chasheais ei balasau,

A chauaf i fynu ddinas ag y sydd ynddi.

9A bydd os gweddillir deg o ddynion mewn un tŷ,

Y byddant farw.

10A châr un a’r hwn a’i llysg a’i cymer,

I ddwyn esgyrn allan o’r tŷ;

Ac a ddywaid wrth yr hwn fyddo yn rhan fewn y tŷ,

A oes genyt neb eto,

Ac efe a ddywaid, Nac oes;

Ac a ddywaid, Taw;

Canys nid gwiw coffau am enw yr Arglwydd.

11O herwydd wele yr Arglwydd yn gorchymyn;

Ac efe a dery y tŷ mawr yn adfeilion:

A’r tŷ bychan yn holltau.

12A rêd meirch ar y graig;

A erddir hi âg ychain:

Canys troisoch farn yn wenwyn;

A ffrwyth cyfiawnder yn wermod.

13Y rhai a lawenhewch o herwydd yr hyn nad yw ddim:

Y rhai a ddywedwch;

Onid trwy ein nerth ni;

Y cawsom i ni gryfder.

14Diau wele fi yn codi yn eich erbyn chwi, tŷ Israel,

Medd yr Arglwydd, Duw y lluoedd, genedl:

A hwy a’ch gorthrymant chwi,

O’r ffordd yr eir i Hamath hyd afon y diffaethwch.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help