Hosea 14 - The Minor Prophets 1881 (John Davies, Ietwen)

PEN. XIV—

1Ymchwel Israel;

At yr Arglwydd dy Dduw:

Canys ti a syrthiaist trwy dy anwiredd.

2Cymerwch eiriau gyda chwi;

A dychwelwch at yr Arglwydd:

Dywedwch wrtho,

Maddeu yr holl anwiredd a derbyn ddaioni;

A thalwn fustechi ein cutiau.

3Assur ni wna ein hachub ni,

Ni farchogwn ar farch;

Ac ni ddywedwn mwyach ein Duw wrth waith ein dwylaw:

Am mai ynot ti y ca amddifad drugaredd.

4Meddyginiaethaf eu gwrthgiliad hwynt;

Caraf hwynt yn ewyllysgar:

Canys trodd fy nig oddiwrtho.

5Byddaf fel y gwlith i Israel;

Efe a flodeua fel y lili:

Ac a leda ei wreiddiau fel Libanus.

6Ei geinciau a gerddant;

A bydd ei harddwch fel yr olewydden:

A bydd arogl iddo fel Libanus.

7Dychwelant gan aros yn ei gysgod ef;

Byddant fyw fel yd a blagurant fel y winwydden:

Ei goffadwriaeth fydd fel gwin Libanus.

8Ephraim,

Beth mwyach sydd y fynwyf âg eilunod:

Myfi a gystuddiais,

A myfi a’i cyfeiriaf fel ffinydwydden werdd;

Oddiwrthyf fi y caed dy ffrwyth di.

9Pwy sydd ddoeth ac a ddeall y pethau hyn;

Yn ddeallus ac a’u gwybydd hwynt:

Canys uniawn yw ffyrdd yr Arglwydd,

A rhai uniawn a rodiant ynddynt;

A throseddwyr a dramgwyddant arnynt.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help