Hosea 5 - The Minor Prophets 1881 (John Davies, Ietwen)

PEN. V.—

1Clywch hyn yr offeiriaid,

A gwrandewch, tŷ Israel,

A thŷ y brenin, rhoddwch glust;

Canys y farnedigaeth sydd i chwi;

Am mai magl fuoch i Mispah;

A rhwyd wedi ei thaenu ar Tabor.

2A thrwy ladd y gwyrasant yn ddirfawr:

A minau yn hyfforddwr iddynt oll.

3Myfi a adwaen Ephraim,

Ac Israel nid yw guddiedig oddiwrthyf;

Canys yn awr, ti Ephraim a buteiniaist:

Israel a halogwyd.

4Ni ad eu gweithredoedd iddynt,

I droi at eu Duw:

Canys ysbryd puteindra sydd o’u mewn;

Ac nid adwaenant yr Arglwydd.

5A thystiolaetha balchder Israel i’w wyneb:

Ac Israel ac Ephraim a syrthiant trwy eu hanwiredd;

Judah hefyd a syrthiodd gyda hwynt.

6A’u defaid ac â’u hychain yr ant i geisio yr Arglwydd,

Ac nis cânt:

Ciliodd oddiwrthynt.

7A’r Arglwydd y gwnaethant yn anffyddlon;

Canys cenedlasant blant dyeithr:

Yn awr mis a’u difa hwynt a’u hetifeddiaethau.

8Cenwch gorn yn Gibeah;

Udgorn yn Ramah

Bloeddiwch ar Bethafen,

Y mae ar dy ol di, Benjamin.

9Ephraim fydd yn anrhaith;

Yn nydd y cerydd:

Yn mysg llwythau Israel;

Y perais wybod peth sicr.

10Bu tywysogion Judah fel symudwyr terfyn;

Tywalltaf arnynt fy llid fel dyfroedd.

11Gorthrymwyd Ephraim, drylliwyd ef gan farnedigaeth:

Am iddo fynu myned ar ol gwagedd.

12A mi a fyddaf fel gwyfyn i Ephraim:

Ac fel pydredd i dŷ Judah.

13Ac Ephraim a wel ei gystudd

A Judah ei archoll;

Ac Ephraim a â at Assur:

Ac a enfyn at frenin ymrysongar;

Ac ni all efe eich meddyginiaethu chwi;

Ac nid iacha efe eich archoll chwi.

14Canys myfi a fyddaf fel llew i Ephraim,

Ac fel cenaw llew i dŷ Judah:

Myfi, myfi a ysglyfaethaf ac a af,

Cymeraf ymaith, ac ni bydd a achubo.

15Af, dychwelaf i’m lle,

Hyd oni chydnabyddont eu bai, ac y ceisiont fy wyneb

Yn yr adfyd arnynt y’m ceisiant yn foreu.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help