Zechariah 6 - The Minor Prophets 1881 (John Davies, Ietwen)

PEN. VI.—

1A thrachefn mi a godais fy ngolwg ac a edrychais; ac wele bedwar cerbydau yn myned allan oddirhwng y ddau fynydd: a’r mynyddoedd oeddent fynyddoedd pres.

2Yn y cerbyd cyntaf yr oedd meirch cochion: yn yr ail gerbyd meirch duon:

3Ac yn y trydydd cerbyd meirch gwynion: ac yn y pedwerydd cerbyd meirch brithion cryfion.

4A mi a aethum rhagof i ddywedyd wrth y genad oedd yn ymddyddan â mi, beth yw y rhai hyn fy arglwydd.

5A’r genad a atebodd ac a ddywedodd wrthyf: y rhai hyn ydynt bedwar ysbrydion y nefoedd; yn myned allan o sefyll gerbron Arglwydd yr holl ddaear.

6Yr hwn y mae y meirch duon ynddo, hwy sydd yn myned allan i dir y gogledd; a’r gwynion a aethant allan ar eu hol hwynt: a’r brithion a aethant allan i dir y deheu.

7A’r cryfion a aethant allan ac a geisiasant fyned i gerdded trwy y ddaear; ac efe a ddywedodd, ewch, cerddwch trwy y ddaear: a hwy a gerddasant trwy y ddaear.

8Ac efe a waeddodd arnaf; ac a lefarodd wrthyf gan ddywedyd: edrych, y rhai sydd yn myned allan i dir y gogledd a lonyddasant fy ysbryd yn nhir y gogledd.

9A bu gair yr Arglwydd ataf gan ddywedyd:

10Cymer gan y gaethglud, gan Cheldai, gan Tobiah, a chan Jedaiah, a dos di ar y dydd hwnw, a dos i dŷ Josiah, mab Sephania lle y daethant o Babylon.

11A chymer arian ac aur, a gwna goronau, a gosod ar ben Jehoshuah yr offeiriad mawr.

12A thi a ddywedi wrtho gan ddywedyd; Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd:

Wele ŵr, Blaguryn ei enw,

O obry iddo y Blagura;

Ac yr adeilada deml yr Arglwydd.

13Ac efe a adeilada deml yr Arglwydd:

Ac efe a ddwg ogoniant;

Ac a eistedd ac a lywodraetha ar ei orsedd;

A bydd yn offeiriad ar ei orsedd;

A chynghor heddwch fydd rhyngddynt eill dau.

14A’r coronau a fyddant yn nheml yr Arglwydd yn goffadwriaeth:

I Cheleu, ac i Tobiah, ac i Jedaiah, ac i Chên, mab Sephaniah.

15A phellenigion a ddeuant ac a adeiladant yn nheml yr Arglwydd;

A chewch wybod mai Arglwydd y lluoedd a’m hanfonodd atoch:

Ac fe fydd os gan wrando y gwrandewch;

Ar lais yr Arglwydd eich Duw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help