Joel 1 - The Minor Prophets 1881 (John Davies, Ietwen)

PEN. I.—

1Gair yr Arglwydd yr hwn a fu at Joel fab Pethuel.

2Gwrandewch hyn yr henafgwyr;

A rhoddwch glust;

Holl breswylwyr y wlad:

A fu hyn yn eich dyddiau chwi;

Ac os yn nyddiau eich tadau.

3Mynegwch am dano i’ch plant:

A’ch plant i’w plant hwynt;

A’u plant hwythau i genedlaeth arall.

4Gweddill pryf y rhwd a fwytaodd y locust;

A gweddill y locust a fwytaodd y lindys:

A gweddill y lindys a fwytaodd y chesil.

5Deffrowch feddwon ac wylwch;

A chwynwch holl yfwyr gwin:

Am y gwin newydd;

Canys torwyd ef oddiwrth eich min.

6Canys cenedl a ddaeth i fyny ar fy ngwlad;

Gref ac annifeiriol:

Ei danedd ydynt ddanedd llew;

A childdanedd llewes sydd iddi.

7Hi a ddifrododd fy ngwinwydden:

A hi a ddrylliodd fy ffigyswydden:

Gan ddirisglo hi a’i dirisglodd ac a’i taflodd ymaith;

Ei changenau a wynasant.

8Cwyna fel gwyryf wedi ei gwregysu â sachlïan,

Am wr ei hieuenctyd.

9Torwyd offrwm bwyd ac offrwm diod oddiwrth dŷ yr Arglwydd:

Galarodd yr offeiriaid;

Gweinidogion yr Arglwydd.

10Difrodwyd maes;

Galarodd daear:

Canys difrodwyd ŷd;

Sychodd gwin newydd, pallodd olew.

11Cywilyddiwych, lafurwyr,

Wylwch winwyddwyr;

Am wenith ac am haidd:

Canys darfu cynhauaf maes.

12Gwywodd y winwydden;

Methodd y ffigyswydden:

Pomgranad, palmwydden hefyd ac afallen,

Holl goed y maes a wywasant;

Canys sychodd llawenydd oddiwrth feibion dynion.

13Ymwregyswch a galerwch yr offeiriaid,

Wylwch weinidogion allor:

Ewch, gorweddwch yn y sachlieiniau;

Weinidogion fy Nuw:

Canys ataliwyd oddiwrth dŷ eich Duw,

Offrwm bwyd ac offrwm diod.

14Cysegrwch ympryd, gelwch gymanfa;

Cesglwch, henuriaid, holl drigolion y wlad;

I dŷ yr Arglwydd eich Duw:

A gwaeddwch ar yr Arglwydd.

15Och i’r dydd;

Canys agos yw dydd yr Arglwydd;

Ac fel difrod oddiwrth yr Hollalluog y daw.

16Onid yn ngwydd ein llygaid y torwyd ymaith fwyd:

Llawenydd a gorfoledd o dŷ ein Duw.

17Pydrodd hadau dan eu cwysau;

Anrheithiwyd ystorfëydd;

Dinystriwyd ysguboriau,

Canys ŷd a wywodd.

18Pa fodd y cwyna anifeiliaid,

Yr aflonydda minteiodd gwartheg;

Am nad oes borfa iddynt:

Deadelloedd y defaid hefyd a ddifrodwyd.

19Atat ti, Arglwydd, y llefaf:

Canys tân a ddifaodd borfeydd yr anialwch;

A fflam a oddeithiodd holl goed y maes.

20Anifeiliaid maes hefyd a ddysgwyliant wrthyt ti:

Canys sychodd y ffrydiau dwfr;

A thân a ysodd borfeydd yr anialwch.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help