1A’r Arglwydd a ddarparasai bysgodyn mawr i lyncu Jonah; a Jonah a fu yn mòl y pysgodyn dri diwrnod a thair nos.
2A Jonah a weddiodd ar yr Arglwydd ei Dduw o fòl y pysgodyn ac a ddywedodd,
3Llefais o’m cyfyngder ar yr Arglwydd,
Ac efe a’m hatebodd:
O fòl y byd isod y gwaeddais,
Clywaist fy llef.
4A thi a’m bwriaist i’r dyfnder yn nghanol moroedd;
A llif a’m hamgylchodd:
Dy holl donau a’th lifeiriant a aethant drosof.
5A minau a ddywedais:
Bwriwyd fi o wydd dy lygaid:
Er hyny mi a edrychaf eto:
Tu a’th deml santaidd.
6Dyfroedd a’m hamgylchasant hyd yr einioes:
Dyfnder a ddaeth o’m hamgylch:
Ymglymodd hesg am fy mhen.
7Disgynais i odre y mynyddoedd;
Trosolion y ddaear oeddent o’m hamgylch yn wastadol:
A thi a godaist fy einioes o ddystryw, Oh! Arglwydd fy Nuw.
8Pan lewygodd fy enaid ynof;
Cofiais yr Arglwydd:
A’m gweddi a ddaeth atat;
I’th deml santaidd.
9Y rhai a ddaliant ar oferedd celwydd,
A wrthodant eu trugaredd eu hunain.
10A minau mewn llais clodforedd a aberthaf i ti;
Talaf yr hyn a addunedais:
Iachawdwriaeth sydd eiddo yr Arglwydd.
11A dywedodd yr Arglwydd wrth y pysgodyn; ac efe a fwriodd Jonah i’r tir sych.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.