1Proffwydoliaeth feichus gair yr Arglwydd yn nhir Hadrac;
A Damascus fydd yn orphwysfa iddo:
Canys y mae i’r Arglwydd lygad ar ddyn;
Ac ar holl Iwythau Israel.
2A Hamath hefyd a derfyna wrthi:
Tyrus a Sidon;
Canys doeth iawn ydyw.
3Ac adeiladodd Tyrus ymddiffynfa iddi:
Ac a dyrodd arian fel llwch;
Ac aur fel llaid yr heolydd.
4Wele yr Arglwydd a’i meddiana hi;
Ac a dery ei nerth hi yn y môr:
A hi a ysir â thân.
5Ashcelon a wel ac a ofna,
A Gaza, ac a ymofidia yn ddirfawr;
Ac Ecron, am y pâr ei gobaith gywilydd:
A derfydd brenin o Gaza;
Ac Ashcelon ni chyfaneddir.
6Ac estron a drig yn Ashdod:
A thoraf ymaith falchder y Philistiaid.
7A mi a gymeraf ymaith ei waed o’i enau,
A’i ffieidd-derau oddirhwng ei ddanedd:
Ac yntau hefyd a weddillir i’n Duw ni:
Ac a fydd megys penteulu yn Judah;
Ac Ecron megys Jebusiad.
8A gwersyllaf i’m tŷ rhag llu,
Rhag a elo a rhag a ddychwelo:
A gorthrymwr ni thramwya yn eu herbyn mwyach:
Canys yn awr gwelais â’m llygaid.
9Bydd lawen iawn ferch Sïon,
Crechwena ferch Jerusalem;
Wele dy frenin a ddaw atat;
Uniawn a buddugol yw Efe:
Addfwyn
ac yn marchogaeth ar asyn;
Ac ar ebol llwdn asenod.
10A thoraf ymaith gerbyd o Ephraim,
A march o Jerusalem;
A thorir ymaith fwa rhyfel;
Ac efe a lefara heddwch wrth y cenedloedd:
A’i lywodraeth fydd o fôr hyd fôr;
Ac o’r afon hyd derfynau daear.
11Tithau hefyd o herwydd gwaed cyfamod â thi,
Gollyngais dy garcharorion o budew heb ddwfr ynddo.
12Trowch i ymddiffynfa;
Y carcharorion gobeithiol:
Ië, heddyw yr wyf yn mynegi y talaf yn ddeublyg i ti.
13Canys plygais Judah i mi yn fwa,
Llenwais Ephraim;
A chyffroais dy feibion di Sïon:
Yn erbyn dy feibion di Iafan:
A gosodais di fel cleddyf gŵr grymus.
14A’r Arglwydd a edrych arnynt,
A’i saeth a â allan fel mellten:
A’r Arglwydd lôr a seinia yn yr udgorn;
Ac a gerdd yn nghorwyntoedd y deheu.
15Arglwydd y lluoedd a orchuddia drostynt,
A dyfethant a sangant ar geryg tafl;
Ac yfant, trystiant megys gan win:
A llenwir hwynt fel mail;
Fel conglau allor.
16A’r Arglwydd eu Duw a’u hachub hwynt yn y dydd hwnw,
Ei bobl fel praidd:
Canys byddant yn feini coffadwriaeth;
Yn ymgodi ar ei dir ef.
17Canys faint yw ei ddaioni ef,
A faint ei brydferthwch ef:
Yd a wna i wŷr ieuainc flaguro,
A gwin wyryfon.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.