1A mi yn troi ymaith gaethglud fy mhobl,
A mi yn meddyginiaethu Israel,
Datguddiwyd anwiredd Ephraim a drygioni Samaria;
Canys gwnaethant ffalsder:
A lleidr a ddaw;
Mintai a ysbeilia yn yr heol.
2Ac ni feddyliant yn eu calon;
Fy mod i yn cofio eu holl ddrygioni hwynt:
Yn awr eu gweithredoedd a’u hamgylchant;
Y maent gerbron fy wyneb.
3Llawenhant frenin â’u drygioni:
A thywysogion â’u celwyddau.
4Y maent oll yn odinebwyr;
Y maent fel ffwrn wedi ei phoethi gan bobydd:
Efe a baid a chodi;
Rhag tylino toes nes lefeinio o hono.
5Ar ddydd ein brenin;
Clafychodd tywysogion o wres gan win;
Estynodd ei law gyda gwatwarwyr.
6Canys wrth gynllwyn o honynt gwnaethant eu calon agos fel ffwrn:
Eu pobydd a gwsg ar hyd y nos;
Y boreu y llysg fel fflam dân.
7Pawb o honynt a wresogant fel y ffwrn,
Ac a ysant eu barnwyr:
Eu holl freninoedd a gwympasant,
Heb un o honynt yn galw arnaf fi.
8Ephraim a ymgymysgodd â’r bobloedd;
Ephraim sydd fel teisen heb ei throi.
9Estroniaid a fwytasant ei gryfder:
Ac nis gŵyr efe;
Ymdaenodd penwyni ar hyd-ddo,
Ac nis gwybu efe.
10Ac y mae balchder Israel yn tystiolaethu yn ei wyneb;
Ac er hyn oll ni throant at yr Arglwydd eu Duw,
Ac ni ddychwelasant at yr Arglwydd eu Duw;
Ac nis ceisiasant ef er hyn oll.
11A bu Ephraim;
Fel colomen ynfyd heb galon:
Galwant ar yr Aipht,
Ant i Assuria.
12Fel yr elont,
Taenaf fy rhwyd drostynt;
Tynaf hwynt i lawr fel adar yr awyr:
Ceryddaf hwynt y modd y clybu eu cynulleidfa hwynt.
13Gwae hwynt,
Canys ffoisant oddiwrthyf;
Dinystr arnynt,
O herwydd iddynt droseddu i’m herbyn:
A mi a’u gwaredais hwynt,
A hwythau a ddywedasant gelwyddau arnaf fi.
14Ac ni lefasant arnaf â’u calon,
Pan gwynfanasant ar eu gwelyau;
A’m ŷd a gwin yr ymgasglasant.
15Troisant i’m herbyn,
A minau wedi hyfforddi;
Cryfheais eu breichiau hwynt;
Ac i’m herbyn y meddyliasant ddrwg.
16[Troisant at ddim. — LXX.]
[Troisant at yr hwn nad yw ddim. — Syr.
]Buost fel bwa twyllodrus;
Eu tywysogion a syrthiant trwy y cleddyf, am gynddaredd eu tafod.
Hyn fydd eu gwaradwydd hwynt yn ngwlad yr Aifft.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.