1A bydd nifer meibion Israel fel tywod y môr;
Yr hwn nid ellir ei fesur, ac nid ellir ei gyfrif:
A bydd yn y fan lle y dywedwyd wrthynt,
Nid fy mhobl ydych chwi;
Y dywedir wrthynt meibion Duw byw.
2A meibion Judah a meibion Israel a gesglir ynghyd;
A hwy a osodant iddynt un pen,
A deuant i fyny o’r wlad:
Canys mawr fydd dydd Jezreel.
3Dywedwch wrth eich brodyr Ammi,
Ac wrth eich chwiorydd Ruchamah.
4Dadleuwch â’ch mam, dadleuwch;
Canys nid fy ngwraig I yw hi;
Ac nid ei gwr hi wyf Fi:
A symuded ei phuteindra o’i gwyneb;
A’i godineb oddi rhwng ei bronau;
5Rhag i mi ei diosg hi yn noeth;
A’i gosod fel y dydd y ganed hi:
A’i gwneuthur hi fel anialwch,
A’i gosod hi fel tir sych,
A gwneuthur iddi farw trwy syched.
6Ac wrth ei phlant ni thosturiaf:
Am mai plant puteindra ydynt hwy.
7Canys eu mam a buteiniodd;
Gwaradwyddus y gwnaeth yr hon a feichiogodd arnynt:
Canys dywedodd hi,
Af ar ol fy nghariadau,
Y rhai sydd yn rhoi fy mara â’m dwfr;
Fy ngwlan a’m llin;
Fy olew a’m diodydd.
8Am hyny, wele fi yn cau i fyny dy ffordd di â drain:
Ac a furiaf fur o’i chylch,
Ac ni cha hi ei llwybrau.
9A hi a ddilyn ei chariadau, ond nis goddiwes hwynt;
A hi a’u cais hwynt, ond nis ca:
A hi a ddywed,
Af a dychwelaf at fy ngwr cyntaf;
Canys gwell oedd arnaf fi yna nag yn awr.
10Ac ni wyddai hi;
Mai myfì a roddes iddi;
Yr ŷd, a’r gwin newydd, a’r olew:
Ac a amlheais iddi arian ac aur,
Y rhai a ddarparasant i Baal.
11Am hyny y cymeraf eto fy ŷd yn ei amser;
A’m gwin newydd yn ei dymor:
A dygaf ymaith fy ngwlân a’m llin;
A guddiai ei noethni hi.
12Ac yn awr mi a ddatguddiaf ei gwarthle hi yn ngolwg ei chariadau;
Ac nis gwared neb hi o’m llaw I.
13A gwnaf i’w holl orfoledd beidio;
Yn wyl iddi, yn newydd loer iddi, ac yn Sabboth iddi:
A phob cymanfa iddi.
14A mi a anrheithiaf ei gwinwydd a’i ffigyswydd hi;
Am y rhai y dywedodd, Gwobr yw y rhai hyn i mi;
Y rhai a roddodd fy nghariadau i mi:
A mi a’u gosodaf yn goedwig;
A bwystfil y maes a’u difa hwynt.
15A mi a ymwelaf â hi am ddyddiau Baalim,
Y rhai yr arogldarthodd hi iddynt;
Ac yr ymdrwsiodd â’i modrwy clust a’i haddurn gwddf;
Ac yr aeth ar ol ei chariadau:
Ac yr annghofiodd inau, medd yr Arglwydd.
16Er hyny, wele myfi yn ei denu hi;
A gwnaf iddi gerdded yr anialwch:
Ac a lefaraf wrth ei chalon.
17A mi a roddaf iddi ei gwinllanoedd o hyn allan;
A dyffryn Acor yn ddrws gobaith:
Ac yno y cân hi fel yn nyddiau ei hieuenctyd;
Ac fel y dydd y daeth hi i fyny o wlad yr Aipht.
18A bydd yn y dydd hwnw, medd yr Arglwydd;
Y gelwi fi Ishi:
Ac ni’m gelwi mwyach Baali.
19A mi a gymeraf ymaith enwau Baalim o’i genau hi:
Ac nis cofir hwynt mwyach wrth ei henw.
20A gwnaf iddynt gyfamod yn y dydd hwnw;
Ag anifeiliaid y maes, ac ag ehediaid y nefoedd;
Ac âg ymlusgiaid y ddaear:
A bwa, a chleddyf, a rhyfel a doraf o’r wlad;
A gwnaf iddynt orphwys mewn diogelwch.
21A mi a’th ddyweddiaf di i mi byth:
A mi a’th ddyweddiaf di i mi mewn cyfiawnder ac mewn barn;
Ac mewn trugaredd, ac mewn tosturiaethau
22A dyweddiaf di i mi mewn ffyddlondeb:
A thi a gydnabyddi yr Arglwydd.
23A bydd yn y dydd hwnw yr atebaf, medd yr Arglwydd;
Yr atebaf wybrenau:
A hwythau a atebant y ddaear.
24A’r ddaear a etyb;
Yr ŷd, a’r gwin, a’r olew:
A hwythau a atebant Jezreel.
25A mi a’i hauaf hi i mi yn y wlad;
Ac a dosturiaf wrth un na thosturiwyd wrthi:
Ac a ddywedaf wrth y rhai nad oeddent bobl i mi, fy mhobl wyt ti;
A hwythau a ddywedant, fy Nuw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.