1A bu gair Arglwydd y lluoedd gan ddywedyd,
2Fel hyn y dywedodd Arglwydd y lluoedd,
Eiddigeddais dros Sïon ag eiddigedd mawr:
Ac â llid mawr yr eiddigeddais drosti.
3Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd;
Dychwelais at Sïon;
A thrigaf yn nghanol Jerusalem:
A gelwir Jerusalem Dinas y gwirionedd;
A mynydd Arglwydd y lluoedd y mynydd Santaidd.
4Fel hyn y dywedodd Arglwydd y lluoedd;
Hen wŷr a hen wragedd a drigant eto;
Yn heolydd Jerusalem:
A bydd gŵr a’i ffon yn ei law gan amlder dyddiau.
5A heolydd y ddinas a lenwir;
O fechgyn a genethod:
Yn chwareu yn ei heolydd hi.
6Fel hyn y dywedodd Arglwydd y lluoedd;
Os anhawdd fyddai yn ngolwg gweddill y bobl hyn;
Yn y dyddiau hyny:
Ai anhawdd fyddai hefyd yn fy ngolwg I;
Medd Arglwydd y lluoedd.
7Fel hyn y dywedodd Arglwydd y lluoedd;
Wele fi yn gwaredu fy mhobl o dir y dwyrain:
Ac o dir machludiad haul.
8A mi a’u dygaf hwynt;
A hwy a breswyliant yn nghanol Jerusalem:
A byddant i mi yn bobl,
A minau a fyddaf iddynt hwy yn Dduw;
Mewn gwirionedd ac mewn uniondeb.
9Fel hyn y dywedodd Arglwydd y lluoedd,
Cryfhaer eich dwylaw chwi;
Y rhai a glywwch yn y dyddiau hyn y geiriau hyn:
O enau y proffwydi;
Y rhai oeddent yn y dydd y sylfaenwyd tŷ Arglwydd y lluoedd,
I adeiladu y deml.
10Canys cyn y dyddiau hyny;
Cyflog i ddyn ni byddai;
A gwerth ar yr anifail nid oedd mohono:
Ac i’r neb a elai ac i’r neb a ddeuai,
Nid oedd heddwch gan y cyfyngder;
A mi a yrais bob dyn un yn erbyn ei gymydog.
11Ac yn awr,
Nid fel yn y dyddiau gynt y byddaf fi;
I weddill y bobl hyn:
Medd Arglwydd y lluoedd.
12Canys had a fydd ffynianus,
Y winwydden a rydd ei ffrwyth,
A’r ddaear a rydd ei chynyrch;
A’r wybrenau a roddant eu gwlith:
A gwnaf i weddill y bobl yma feddianu yr holl bethau hyn.
13A bydd megys y buoch yn felldith yn mysg y cenedloedd,
Tŷ Judah a thŷ Israel;
Felly y gwaredaf chwi;
A byddwch yn fendith:
Nac ofnwch, cryfhaer eich dwylaw.
14Canys fel hyn y dywedodd Arglwydd y lluoedd,
Fel y meddyliais eich drygu chwi,
Pan y digiodd eich tadau fyfi;
Medd Arglwydd y lluoedd:
Ac nid edifarheais.
15Felly y meddyliais drachefn yn y dyddiau hyn;
I wneuthur daioni i Jerusalem a thŷ Judah:
Nac ofnwch.
16Dyma y pethau a wnewch:
Dywedwch wir bob un wrth ei gymydog;
Gwirionedd a barn berffaith;
Bernwch yn eich pyrth.
17A drwg un i’r llall,
Na feddyliwch yn eich calon;
A llw celwyddog na hoffwch:
Canys yr holl bethau hyn ydynt yn rhai a gasheais,
Medd yr Arglwydd.
18A bu gair Arglwydd y lluoedd ataf gan ddywedyd,
19Fel hyn y dywedodd Arglwydd y lluoedd,
Ympryd y pedwerydd ac ympryd y pumed ac ympryd y degfed,
A fydd i dŷ Judah yn llawenydd a gorfoledd:
Ac yn wyliau daionus:
A’r gwirionedd a heddwch cerwch.
20Fel hyn y dywedodd Arglwydd y lluoedd:
Bydd eto y daw pobloedd;
A phreswylwyr dinasoedd lawer:
21Ac yr â preswylwyr un i’r llall,
Gan ddywedyd,
Awn gan fyned i weddïo am wyneb yr Arglwydd;
Ac i geisio Arglwydd y lluoedd:
Minau a af hefyd.
22A phobloedd lawer a chenedloedd cryfion a ddeuant;
I geisio Arglwydd y lluoedd yn Jerusalem:
Ac i weddïo am wyneb yr Arglwydd.
23Fel hyn y dywedodd Arglwydd y lluoedd,
Yn y dyddiau hyny;
Yr ymaflant ddeg o ddynion;
O holl ieithoedd y cenedloedd:
Ië, ymaflant yn ngodreu gŵr o Iuddew gan ddywedyd,
Awn gyda chwi;
Canys clywsom fod Duw gyda chwi.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.