1Pan oedd Israel yn fachgen,
Mi a’i cerais:
Ac o’r Aipht y gelwais fy mab.
2Galwyd arnynt:
Yna aethant o’u gwydd hwy;
Aberthasant i Baalim;
Ac arogldarthasant i ddelwau ceifiedig.
3A myfi a ddysgais i Ephraim gerdded;
Gan eu cymeryd erbyn eu breichiau:
Ac ni wybuant mai myfi a’u meddyginiaethodd hwynt.
4A rheffynau dyn y tynwn hwynt, â llinynau cariad;
A bum iddynt megys rhai a godent iau ar eu bochgernau hwynt:
Ac estynwn atynt fwyd.
5Ni ddychwel efe i wlad yr Aipht;
Ac Assur, efe fydd ei frenin;
Am iddynt wrthod dychwelyd.
6A chleddyf a syrth ar ei ddinasoedd:
Ac a dreulia ac a ysa ei geinciau ef:
Am ei cynghorion hwynt.
7A’m pobl i a ogwyddant i gilio oddiwrthyf fi:
Ond at iau y gelwir hwynt yn nghyd;
Ni chodir hi i fyny.
8Pa fodd y’th roddaf ymaith, Ephraim,
Y’th roddaf i fyny, Israel;
Pa fodd y’th roddaf fel Admah;
Y’th osodaf megys Seboim:
Trodd fy nghalon ynof;
Cydgynghyrfwyd fy nhosturiaethau.
9Ni chyflawnaf angerdd fy llid,
Ni chwanegaf ddinystrio Ephraim:
Canys Duw wyf fi ac nid dyn;
Santaidd yn dy ganol di;
Ac ni ddeuaf mewn llidiogrwydd.
10Ar ol yr Arglwydd yr ant,
Efe a rua fel llew:
Canys efe a rua;
A meibion a brusurant o’r gorllewin.
11Prysurant fel aderyn o’r Aipht, Ac fel colomen o dir Assur:
A gwnaf iddynt drigo yn eu tai, medd yr Arglwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.