Malaci 1 - The Minor Prophets 1881 (John Davies, Ietwen)

PEN. I.—

1Baich gair yr Arglwydd at Israel, trwy law Malaci.

2Cerais chwi, medd yr Arglwydd;

A chwi a ddywedwch,

Yn mha beth y’n ceraist ni.

3Onid brawd oedd Esau i Jacob, medd yr Arglwydd;

A Jacob a gerais,

Ac Esau a gasheais;

Ac a osodais ei fynyddoedd yn ddiffaethwch;

A’i etifeddiaeth i ddreigiau anialwch.

4Canys Edom a ddywed,

Drylliwyd ni,

A ni a adeiladwn drachefn leoedd anghyfanedd;

Fel hyn y dywedodd Arglwydd y lluoedd:

Hwy a adeiladant a minau a ddrylliaf:

A gelwir arnynt ardal drygioni;

A’r bobl wrth y rhai y llidiodd yr Arglwydd yn dragywydd.

5A’ch llygaid a welant:

A chwithau a ddywedwch,

Mawrygir yr Arglwydd;

Tu hwnt i derfyn Israel.

6Mab a anrhydedda dad a gwas ei arglwydd:

Ac os Tad wyf fi,

Pa le y mae fy anrhydedd?

Ac os Arglwydd wyf Fi,

Pa le y mae fy ofn?

Medd Arglwydd y lluoedd wrthych chwi offeiriaid,

Y rhai ydych yn dirmygu fy enw.

7A chwi a ddywedwch,

Trwy ba beth y dirmygaswn dy enw di.

8Offrymu yr ydych ar fy allor fara halogedig;

A chwi a ddywedwch,

Trwy ba beth yr halogasom di?

Trwy ddywedyd o honoch,

Bwrdd yr Arglwydd dirmygedig yw efe.

9Ac yr offrymwch ddall yn aberth,

Nid oes ddrwg:

Ac yr offrymwch gloff ac afiach.

Nid oes ddrwg:

10Cynyg ef yn awr i’th lywydd,

A bydd efe boddlawn i ti,

Neu a dderbyn efe dy wyneb di;

Medd Arglwydd y lluoedd.

11Ac yn awr ymbiliwch atolwg am wyneb Duw,

Ac y trugarhao wrthym:

O’ch herwydd chwi y bu hyn;

A dderbyn efe eich wyneb;

Medd Arglwydd y lluoedd.

12Pwy hefyd yn eich plith a gauai ddrysau;

Ac mi oleuech fy allor yn rhad:

Nid oes i mi hyfrydwch ynoch,

Medd Arglwydd y lluoedd;

Ac ni byddaf foddlon i offrwm o’ch llaw.

13Canys o godiad haul hyd ei fachludiad hefyd,

Mawr fydd

fy enw yn mhlith y cenedloedd;

Ac yn mhob lle arogldarth a offrymir i’m henw ac offrwm pur:

Canys mawr fydd fy enw yn mhlith y cenedloedd:

Medd Arglwydd y lluoedd.

14A chwithau ydych yn ei halogi ef:

Wrth ddywedyd o honoch,

Bwrdd yr Arglwydd,

Anmharchus yw efe a’i gynyrch;

Dirmygedig yw ei fwyd ef.

15A dywedasoch,

Wele pa flinder sydd (ydyw),

A chwythasoch arno,

Medd Arglwydd y lluoedd;

A dygasoch a ysglyfaethwyd,

A’r cloff a’r anhwylus,

A dygasoch hwynt yn offrwm:

A fyddaf fi boddlon iddo o’ch llaw chwi,

Medd yr Arglwydd.

16A melldigedig yw y twyllodrus,

A bod yn ei ddeadell wrryw;

Ac yn addunedu ac yn aberthu un anafus i’r Arglwydd:

Canys brenin mawr ydwyf Fi,

Medd Arglwydd y lluoedd;

A’m henw yn ofnadwy yn mhlith y cenedloedd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help