1At dy safn ag udgorn
Fel yr eryr yn erbyn tŷ yr Arglwydd;
Am iddynt droseddu fy nghyfamod;
A phechu o honynt yn erbyn fy nghyfraith.
2Arnaf fi y llefant;
Fy Nuw, nyni Israel, a’th adwaenom.
3Israel a wrthododd ddaioni:
Gelyn a’i herlid yntau.
4Hwy a wnaethant freninoedd,
Ond nid trwof fi;
Gwnaethant dywysogion,
Ac nis gwybum:
Eu harian, a’u haur, a wnaethant iddynt yn ddelwau;
Fel y torer hwynt ymaith.
5Ffiaidd yw dy lo di Samaria;
Cyneuodd fy nig wrthynt:
Hyd ba hyd na fedrant ddiniweidrwydd.
6Canys o Israel y bu efe;
Crefftwr a’i gwnaeth,
Ac nid Duw yw efe;
Canys yn ddrylliau y bydd llo Samaria.
7Canys gwynt a hauant a chorwynt a fedant;
Yr ŷd, ni bydd corsen iddo,
Ni wna flawd;
Os gwna:
Dyeithriaid a’u llyncant.
8Israel a lyncwyd:
Yn awr aethant yn mysg y cenedloedd;
Fel llestr heb hoffder ynddo.
9Canys hwy a aethant i fyny i Assuria;
Asyn gwyllt, unig iddo ei hun yw Ephraim;
Cyflogasant gariadau.
10Hefyd er iddynt gyflogi yn mysg y cenedloedd,
Yn awr mi a’u casglaf hwynt:
Ac ymofìdiant ychydig am y baich,
Yn frenin, yn dywysogion.
11O herwydd amlhaodd Ephraim allorau at bechu:
Buont iddo yn allorau at bechu.
12Ysgrifenwn iddo bethau mawrion fy nghyfraith:
Fel dyeithr beth y cyfrifwyd hwynt.
13Yn aberthau dyledus i mi,
Yr aberthant gig ac a’i bwytant;
Yr Arglwydd nid yw foddlon iddynt:
Yn awr efe a gofia eu hanwiredd, ac a ofwya eu pechodau;
Hwy a ddychwelant i’r Aipht.
14Ac annghofiodd Israel ei Wneuthurwr,
Ac a adeiladodd demlau:
A Judah a amlhaodd ddinasoedd caerog:
Ond myfi a anfonaf dân yn ei ddinasoedd
Ac efe a ysa ei phalasau.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.