1Judas, gwas Iesu Grist, a brawd Iago, at y galwedigion a sancteiddiwyd gan Dduw Dad ac a gadwyd gan Iesu Grist, —
2trugaredd i chwi, a heddwch, a chariad, a liosoger.
3Anwyliaid, tra yn arferyd pob diwydrwydd i ysgrifenu am yr iachawdwriaeth gyffredinol, tybiais yn anghenrheidiol ysgrifenu atoch er eich annog i lwyr ymdrechu yn mhlaid y ffydd a draddodwyd unwaith i’r saint;
4canys daeth rhyw ddynion i mewn yn lladradaidd, y rhai er cynt a ragdrefnwyd i’r farn hon, annuwiolion, yn troi rhad ein Duw i drythyllwch, ac yn gwadu yr unig Lywiawdwr a’n Harglwydd Iesu Grist.
5Ewyllysiaf gan hyny eich hadgoffâu, er y gwyddech hyn unwaith, ddarfod i’r Arglwydd, wedi gwaredu y bobl o wlad yr Aipht, ddyfetha ar ol hyny y rhai ni chredasent.
6Yr angelion hefyd, na chadwasent eu huwchafiaeth, ond a adawsent eu trigfod eu hun, a gadwodd i farn y dydd mawr tan dywyllwch mewn cadwynau parhâus.
7Megys Sodom a Gomorra a’r dinasoedd o’u hamgylch, yn puteinio mewn gyffelyb fodd iddynt, ac yn myned ar ol cnawd dyeithr, a osodwyd yn gynlluniad trwy ddyoddef barn o dân tragygywyddol;
8yn yr un modd hefyd y bydd y breuddwydwyr hyn: y rhai a halogant y cnawd, ac a ddirmygant lywodraeth, ac a gablant urddasau.
9Ond Micael yr archangel, pan yn ymddadleu â’r Diafol, yr ymresymai ynghylch corff Moses, ni feiddiodd ddwyn barn gableddus yn ei erbyn, ond dywedodd, Cerydded yr Arglwydd di:
10ond y rhai’n, cablant y pethau nis gwyddant am danynt; a’r pethau a wyddant yn anianol, fel milod direswm, y pethau hyn ymlygrant ynddynt.
11Gwae iddynt! oblegid yn ffordd Cain y cerddasant, ac ymruthrasant i hudoliaeth gwobrwy Balaam, ac a ddyfethwyd trwy wrthryfel Core.
12Y rhai’n, mànau ydynt yn eich cariadwleddoedd, yn cydwledda â chwi, yn porthi eu hunain yn ddïofn; cymylau diddwfr ydynt, a gylcharweinir gan wyntoedd; prenau Hydref heb ffrwyth, yn farw ddwywaith, wedi eu diwreiddio;
13tònau cynddeiriog y môr, yn ewynu allan eu gwarth eu hunain; sêr gwibiog, y rhai y cedwir iddynt gaddug y tywyllwch yn dragywydd.
14Prophwydodd Enoc hefyd, y seithfed o Adda, am y rhai’n, gan ddywedyd, — “Wele, daw yr Arglwydd gyda myrddiwn o’i saint,
15i roddi barn ar bawb, ïe, i gyhuddo yr holl annuwiolion yn eu plith o holl weithredoedd eu hannuwioldeb, y rhai yn annuwiol a wnaethant, ac o’r holl bethau caled a lefarodd pechaduriaid annuwiol yn ei erbyn.”
16Y rhai’n ydynt rwgnachwyr, tuchanwyr, yn rhodio yn ol eu chwantau eu hunain; a llefara eu genau bethau chwyddedig, gan fawrygu dynion er mwyn elw!
17Ond chwi, anwyliaid, cofiwch y geiriau a ragdraethwyd gan apostolion ein Harglwydd Iesu Grist;
18oblegid dywedasant wrthych, y bydd yn yr amser diweddaf watwarwyr yn rhodio yn ol eu chwantau annuwiol eu hunain.
19Y rhai’n ydynt hwy a barant ymraniadau, gan fod yr anianol, heb fod ganddynt yr Ysbryd.
20Ond chwi, anwyliaid, gan adeiladu eich hunain ar eich ffydd sancteiddiaf, a gweddïo trwy’r Ysbryd Glân,
21cedwch eich hunain yn nghariad Duw, gan ddysgwyl am drugaredd ein Harglwydd Iesu Grist i fywyd tragywyddol.
22A rhai yn wir trugarhêwch wrthynt, gan wneuthur gwahaniaeth;
23ond achubwch eraill mewn ofn, trwy eu cipio allan o’r tân, gan gasâu hyd yn nôd y wisg a halogwyd gan y cnawd.
24Yn awr, yr Hwn a ddichon eich cadw heb syrthio, a’ch gosod ger bron ei ogoniant yn ddifrychau mewn gorfoledd,
25yr unig ddoeth Dduw, ein Iachawdwr, iddo ef y bo’r gogoniant a’r mawredd, y gallu a’r oruchafiaeth, y pryd hwn, a thrwy bob oesoedd. Amen.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.