1Gwae y rhai a ddychymygant drawsder,
Ac a weithredant ddrwg ar eu gwelyau!
Ar oleuni y boreu gwnant ef,
Pan fyddo yn ngallu eu llaw.
2Pan chwennychent feusydd, ysglyfaethant;
Neu dai, cymerant hwynt ymaith;
Ië, gormesant ŵr a’i dŷ,
A dyn a’i etifeddiaeth.
3Am hyny fel hyn y dywed Iehofa,
Wele fi yn dychymygu i’r teulu hwn ddrwg,
Yr hwn ni thynwch rhagddo eich gyddfau,
Ac ni rodiwch yn uchelfryd,
Canys amser drygfyd a fydd.
4Yn y dydd hwnw y cyfodir am danoch ddiareb,
A galarir galar galarnad,
A dywed yr anrheithiedig, “Anrheithiwyd ni!
Rhan fy mhobl a newidia;
Pa fodd yr ymadawa er fy mwyn!
Yn lle dychwelyd, fy meusydd a rana!”
5Am hyny ni bydd i ti neb a fwrio linyn coelbren,
Yn nghynnulleidfa Iehofa.
6“Na phrophwydwch a brophwydant;”
Ni phrophwydant i’r cyfryw;
Ni symudir gwaradwyddiadau.
7Ai a ddywedir gan dŷ Iacob,
“A fyrhaodd Ysbryd Iehofa?
Ai y cyfryw ydynt ei weithrediadau?”
Oni wna fy ngeiriau ddaioni
I’r neb a rodio yn uniawn?
8Ond fy mhobl er cynt, yn elynion y cyfodant;
Oddiar yr hugan y diosgwch y clôg
Oddiam y rhai a dramwyant yn hyderus,
Yn dychwelyd o ryfel:
9Gwragedd fy mhobl a yrwch allan,
Pob un o dŷ ei hoffderau;
Oddiar ei phlant y cymerwch ymaith
Fy addurniad dros byth.
10Codwch ac ewch ymaith,
Am nad hon yw eich gorphwysfa;
O herwydd ei halogi, dinystrir hi, A’r dinystr fydd yn nerthol.
11Os gau-ddywed neb, sy’n dilyn yr ysbryd a thwyll,
“Prophwydaf i ti am win a diod gadarn;”
Yna daw yn brophwyd i’r bobl hyn.
12Gan gasglu casglaf Iacob, — ti oll,
Gan gynnull cynnullaf weddill Israel;
Ynghyd y gosodaf hwynt fel defaid yn Bosra,
Fel praidd yn nghanol eu corlan,
A drystiant o herwydd dynion:
13Esgyn y rhwygydd ger eu bron;
Rhwygant trwodd a thramwyant trwy’r porth;
Yna hwy a änt allan trwyddo,
A thramwya eu brenin o’u blaen,
A Iehofa yn ben arnynt.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.