Galarnad Ieremia 3 - Prophets and Epistles 1852-62 (John Owen)

PENNOD III.

1Myfi y gwr a welodd dristwch

Trwy wialen ei ddigllonedd:

2Myfi a arweiniodd ac a barodd rodio

Mewn tywyllwch ac nid mewn goleuni,

3Ac eto, yn fy erbyn y try,

Dadymchwelaf fi ei law bob dydd.

4Difäodd fy nghnawd a’m croen,

Drylliodd fy esgyrn;

5Adeiladodd i’m herbyn,

Ac amgylcha fi dlodi a lludded;

6Mewn tywyll leoedd y gosododd fi,

Fel meirwon oesoedd.

7Argauodd o’m hamgylch fel nad elwyf allan,

Gwnaeth yn drom fy nghadwyn:

8Ië, pan waeddais ac y bloeddiais,

Cauodd allan fy ngweddi:

9Argauodd fy ffyrdd â cheryg nâdd,

Fy llwybrau a wyrodd.

10Arth yn cynllwyn y bu i mi,

Llew yn ei lochesau;

11Fy ffyrdd a wyrdrodd, a drylliodd fi,

Gwnaeth fi yn anghyfannedd;

12Annelodd ei fwa,

A gosododd fi fel nôd i’w saeth;

13Gwnaeth fyned i’m harennau

Saethau ei gawell:

14Buais yn wawd i’m holl bobl,

Eu cân bob dydd:

15Llanwodd fi â chwerwder,

Alarodd fi â wermod.

16Ië, treuliodd â graian fy nannedd,

Gorchuddiodd fi â llwch:

17A phell oddiwrth heddwch oedd fy enaid,

Anghofiais bob daioni;

18A dywedais, “Darfu fy rhagoriaeth,

A’m gobaith oddiwrth Iehofa.”

19Cofia fy nhristwch a’m hiseliad,

Y wermod a’r bustl;

20Gan gofio cofia — ,

Canys darostyngwyd ynof fy enaid:

21Hyn a ddygaf ar gof —

(Am hyny y gobeithiaf)

22 Sef trugareddau Iehofa, na therfynasant,

Gan na fethodd ei dosturiaethau:

23Adnewyddol ydynt yn y bore;

Mawr yw dy ffyddlondeb.

24Fy rhan yw Iehofa, medd fy enaid;

Am hyny gobeithiaf ynddo:

25Da yw Iehofa i’r hwn a ddysgwyl wrtho,

I’r enaid sydd yn ei geisio;

26Da yw dysgwyl yn ddystaw

Am iachawdwriaeth Iehofa;

27Da i ddyn pan gymero

Yr iau yn ei ieuenctyd:

28Eistedded wrtho ei hun a bydded ddystaw,

Canys cyfododd hi arno;

29Rhodded yn y llwch ei enau,

Ysgatfydd fod gobaith;

30Rhodded i’w gurwr ei gern,

Llanwer ef â gwaradwydd:

31Canys nid yn dragywydd

Y bwrw Iehofa ymaith;

32Canys er y cystuddia, eto tosturia

Yn ol amledd ei drugaredd;

33Canys nid o’i galon y tralloda,

Nac y cystuddia feibion dynion,

34Gan fathru tan ei draed

Holl rwymedigion y wlad:

35Gwyrdroi barn gŵr,

Ger bron wyneb y Goruchaf,

36Camwedda dyn yn ei achos, —

Nid yw Iehofa yn cymeradwyo.

37Pwy yw efe a ddywed y bydd dim,

Iehofa heb ei orchymyn?

38O enau y Goruchaf,

Oni ddaw y drwg a’r da?

39Pam yr achwyn dyn,

Neb un byw, o herwydd ei bechod?

40Dadguddiwn ein ffyrdd a chwiliwn,

A dychwelwn at Iehofa;

41Dyrchafwn ein calonau a’n dwylaw

At Dduw yn y nefoedd.

42Nyni, troseddasom a gwrthryfelasom;

Tydi, nid arbedaist;

43Mewn digofaint yr argauaist ac y dilynaist ni;

Lleddaist, nid arbedaist;

44Argauaist dy hun mewn cwmwl,

Rhag myned trwyddo ein gweddi:

45Yn sorod ac yn ysgubion ein gosodi,

Ymysg y bobloedd.

46Agorasant i’n herbyn eu genau,

Ein holl elynion;

47Dychryn a magl a ddaeth arnom,

Difrod a drylliad;

48Ffrydiau o ddwfr a ddiferodd fy llygad,

O herwydd drylliad merch fy mhobl.

49Fy llygad a ddylifodd ac ni pheidiodd,

Gan nad oes gorphwysfa,

50Hyd oni edrycho,

Ac y gwelo Iehofa o’r nefoedd:

51Fy llygad a effeithiodd ar fy enaid,

O herwydd holl ferched fy ninas.

52Gan hela helodd fi, fel aderyn,

Fy ngelynion, heb achos;

53Nychasant yn y pydew fy mywyd,

A bwriasant gareg arnaf;

54Llifodd dyfroedd dros fy mhen,

Dywedais, “Torwyd fi ymaith.”

55Gelwais, ar dy enw, Iehofa,

O’r pydew iselaf;

56Fy llef a glywaist, — “Na chudd dy glust

Rhag fy uchenaid, rhag fy ngwaedd;”

57Nesëaist ar y dydd y gelwais arnat,

Dywedaist, “Nac ofna:”

58Dadleuaist, Iehofa, ddadlau fy enaid,

Gwaredaist fy mywyd;

59Gwelaist, Iehofa, fy ngham,

Barnaist fy marn;

60Gwelaist eu holl ymddial,

Eu bwriadau i’m herbyn.

61Clywaist eu gwaradwydd, Iehofa,

Eu holl fwriadau tuag ataf, —

62Gwefusau fy ngwrthwynebwyr,

A’u sibrwd am danaf bob dydd;

63Eu heistedd a’u cyfodi a welaist,

Myfi oedd eu cân.

64Dychweli iddynt daledigaeth, Iehofa,

Yn ol gweithred eu dwylaw;

65Rhoddi iddynt galedrwydd calon,

Dy felldith a fydd arnynt;

66Mewn digofaint ymlidi a dyfethi hwynt,

Odditan nefoedd Iehofa.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help